Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Eich helpu chi i adnabod pa fathau o ymddiriedolwyr fyddai’n cefnogi datblygiad eich elusen a sut i’w recriwtio.
Cynnwys
Recriwtio ymddiriedolwyr newydd yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y gall elusen ei wneud. Mae argyfwng COVID-19 wedi profi pa mor bwysig yw bod â bwrdd amrywiol yn ei le sydd â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i arwain eich elusen trwy amseroedd heriol.
Ymunwch â’r elusen recriwtio ymddiriedolwyr, Getting on Board, a grŵp bychan o elusennau eraill, er mwyn penderfynu pwy sydd eu hangen arnoch ar eich bwrdd, ysgrifennu hysbyseb a fydd yn denu’r ymddiriedolwyr sydd eu hangen arnoch, dysgu ble i hysbysebu, cynllunio’ch proses o greu rhestr fer a chyfweld ac ystyried sut y byddwch yn cynefino ymddiriedolwyr fel bod modd i chi elwa o’u mewnbwn cyn gynted â phosibl ar ôl eu penodi.
Byddwch yn gweithio ar eich deunydd recriwtio ymddiriedolwyr eich hun yn ystod y dosbarthiadau meistr, felly mae hwn yn fuddsoddiad amser gwych i unrhyw elusen sy’n cynllunio i recriwtio ymddiriedolwr yn y tymor byr a chanolig.
Canlyniadau Dysgu
Trwy fynychu’r cwrs, byddwch yn gwybod sut i:
- Benderfynu pwy sydd eu hangen arnoch ar eich bwrdd
- Ysgrifennu hysbyseb ymddiriedolwyr a phecyn gwybodaeth cymhellgar
- Dod o hyd i’ch ymddiriedolwyr newydd
- Creu rhestr fer o ymddiriedolwyr a’u cyfweld
- Sicrhau bod eich ymddiriedolwyr yn cael y dechrau gorau posibl arni
I bwy mae’r cwrs?
Prif Swyddogion Gweithredol, Rheolwyr a Chyfarwyddwyr elusennau a/neu ymddiriedolwyr. Bydd dau unigolyn o bob mudiad (fel arfer Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd) yn fwy effeithiol, ond nid yw’n hanfodol.
Cwrdd â’r hyfforddwr
Mae ‘Getting on Board’ yn elusen sy’n helpu unigolion ac aelodau o rwydweithiau proffesiynol i ddod yn arweinwyr newydd mewn cymunedau drwy wirfoddoli ar lefel bwrdd.