Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno i chi yn fewnol, cysylltwch ag Eleanor Jones, ejones@wcva.cymru
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcan
Mewn partneriaeth â Gofal Canser Macmillan, rydym wedi cynllunio’r cwrs hwn i’ch helpu i gyfeirio pobl yn effeithiol ac yn effeithlon at wasanaethau canser sydd ar gael yn eu cymuned.
Cynnwys
Mae ymchwil sylweddol mewn cymunedau ledled Cymru wedi canfod nad yw llawer o bobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau cymorth a gwybodaeth am ganser sydd ar gael iddyn nhw ac aelodau eu teulu pan fyddant yn cael diagnosis.
Trwy weithio mewn partneriaeth â Macmillan, rydym yn gwneud pobl broffesiynol yn y gymuned yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael, fel eu bod yn gwybod i ble i anfon eu defnyddwyr gwasanaethau os bydd angen cymorth arnynt. Bydd y bobl hyn yn cael eu galw’n Hyrwyddwyr Gwybodaeth Macmillan. Mae’r rhaglen hon yn cael ei threialu yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddechrau.
Deilliannau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau canser sydd ar gael o fewn eu cymunedau fel y gallant gyfeirio pobl yn effeithiol ac yn effeithlon.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r yma cwrs i unigolion sy’n gweithio gyda phobl mewn lleoliad cymunedol yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Prosiect arloesi cymunedol Macmillan
Datblygwyd y cwrs hwn yn dilyn ein prosiect arloesi cymunedol Macmillan. Darganfyddwch fwy am y prosiect drosodd ar ein tudalen prosiect.