dau gydweithiwr yn siarad

Dirprwyo a’r dawn o ddweud na

21 Mai 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Cyflwynir gan Eileen Murphy

Amcanion

Rhoi’r hyder a’r adnoddau i gyfranogwyr ddirprwyo’n dda. I ddysgu sut i ddweud na.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r hyder i chi ddirprwyo’n fwy effeithiol. Bydd hefyd yn cynnig tactegau ar sut i ddweud na mewn modd positif.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn:

  • Gallu deall sut rydym yn adeiladu ymddiriedaeth
  • Gallu dirprwyo’n hyderus
  • Gwybod sut i beidio â micro-reoli
  • Gwybod sut i ddweud na, a chynnig opsiynau eraill

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.

Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?