Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Nod
I wella gwybodaeth a sgiliau ym maes diogelu a datblygu meddwl yn strategol ynghylch diogelu ar gyfer eich mudiad. I amlinellu rôl ymddiriedolwyr ac aelodau bwrdd o ran diogelu a’r cyfrifoldebau a roddir arnynt gan amrywiaeth o reoleiddwyr a deddfwriaeth.
Cynnwys
Mae’r sesiwn gychwynnol hon yn cynnwys cyflwyniadau, ymarferion, trafodaeth grwpiau bach a grwpiau cyfan a bydd yn cynnwys:
- Diogelu – trosolwg, deddfwriaeth, a safonau diogelu (Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Elusennau)
- Polisi a gweithdrefnau, rolau a chyfrifoldebau
- Beth sy’n digwydd pan fydd pryder diogelu yn cael ei adrodd? – Proses gam wrth gam
- Beth rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma?
- Cynllun Diogelu
- Cynnydd, Asesiad Effaith
- Adolygiad o strwythur a gweithdrefnau diogelu presennol
- Astudiaethau achos – rhoi gweithdrefnau ar waith
- Ble ydyn ni’n mynd nesaf? – Cyfle i archwilio meysydd datblygu a chyfathrebu
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi:
- Yn gallu deall eich amrywiaeth o gyfrifoldebau diogelu
- Wedi gwella a gloywi eich gwybodaeth am ymarfer gwael a cham-drin
- Deall cyd-destun deddfwriaethol amddiffyn plant, oedolion mewn perygl, a diogelu
- Yn gallu deall a disgrifio sut y caiff pryderon/digwyddiadau eu rheoli o fewn y mudiad
- Adnabod pa gyrff a strwythurau sydd y tu ôl i’r amryw ddyletswyddau
- Wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau ynghylch ymateb i bryderon diogelu am bobl yn eich mudiad
- Yn ystyried unrhyw feysydd diogelu yn eich mudiad i’w datblygu yn y dyfodol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Bydd yr hyfforddiant yn addas i aelodau bwrdd, arweinwyr gwirfoddoli, ac ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am faterion diogelu yn eu mudiadau.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.