Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Rhoi’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol i chi ddelio gyda sgyrsiau anodd.
Cynnwys
Ydych chi’n ei chael yn anodd delio gyda sgyrsiau anodd yn eich swydd? P’un ai ydych yn weithiwr cymorth neu’n ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd mae gweithwyr a gwirfoddolwyr yn y trydydd sector yn aml yn wynebu gwrthdaro yn eu gwaith bob dydd.
Wedi’i gyflwyno trwy Zoom bydd y cwrs 2 x 2.5 awr hwn yn eich arfogi â’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol i chi ddelio gyda sgyrsiau anodd a rheoli gwrthdaro mae. Bydd y cwrs yn:
- eich helpu i ddeall ac ystyried eich ymddygiad eich hun
- edrych ar faterion yn ymwneud â diogelu
- hybu’ch dealltwriaeth o bendantrwydd
- darparu technegau i ddelio gyda sefyllfaoedd o wrthdaro heb fod yn fygythiol
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- cydnabod eich ymddygiad eich hun a’r ffordd rydych yn ymateb mewn sefyllfaoedd amrywiol
- deall sut i fod yn fwy pendant a rheoli ffiniau
- defnyddio technegau i ddelio gyda sgyrsiau anodd
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Unrhyw un sydd angen delio gyda phobl yn unigol neu mewn grwpiau bychain e.e. gweithwyr cymorth, gweithwyr rheng flaen, gwirfoddolwyr.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.