Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Eich helpu i ddeall yn well sut y gellir defnyddio Theori Newid i werthuso a’ch helpu i ddefnyddio Theori Newid at eich dibenion eich hun.
Cynnwys
Ffordd o gynllunio canlyniadau prosiect yw theori newid – ond gellir hefyd ei defnyddio i helpu werthuso ei effaith.
Mae fframwaith gwerthuso cadarn yn allweddol i wella’ch gwaith, yn ogystal ag i ddangos ei werth i gyllidwyr, a theori newid yw’r ffordd berffaith o wneud hynny.
Cyflwynir y cwrs ar-lein hwn dros ddwy sesiwn gan ddechrau gan egluro, mewn iaith syml, rai termau pwysig a ddefnyddir wrth werthuso, dulliau gwerthuso gwahanol a’r hyn maent yn anelu at eu cyflawni.
Mae’r cwrs wedyn yn ystyried nodweddion Theori Newid drwy gyfuniad o gyflwyniad, trafodaeth, enghreifftiau ymarferol ac ambell i ymarfer (ddim yn rhy ddifrifol) ysgafn. Bydd yn dangos yr egwyddorion allweddol y tu ôl i theori newid, yn nodi ei phrif gryfderau, ac yn ystyried y ffordd amrywiol o ddarlunio Theori Newid.
Craidd y cwrs hwn yw ymarfer estynedig, ynghyd â phytiau o wybodaeth a thrafodaeth i’ch helpu i gynllunio a datblygu Theori Newid ar gyfer darn o waith yr ydych yn rhan ohono. Nod hyn yw ymwreiddio’r wybodaeth ddamcaniaethol, rhoi’r hyder i chi ddefnyddio Theori Newid a rhoi sail cynllun i chi ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Mae’r rhan olaf o’r cwrs yn ystyried y cwestiynau ‘beth allwch ei fesur?’ a, ‘sut allwch ei fesur?’ Byddwch yn rhannu’ch profiad o offer a thechnegau amrywiol i gasglu gwybodaeth a chynhyrchu canfyddiadau cadarn.
Canlyniadau dysgu
Trwy gymryd rhan yn y cwrs byddwch yn:
- Ennill dealltwriaeth well o derminoleg allweddol a ddefnyddir wrth werthuso, ac o ddulliau gwerthuso pwysig a’r hyn yr ydych yn anelu at ei gyflawni.
- Deall nodweddion unigryw Theori Newid yn well, ei chryfderau allweddol, a sut y gellid ei defnyddio yn eich gwaith chi.
- Dysgu sgiliau ac yn teimlo’n hyderus i fynd ati i gynllunio a gweithredu Theori Newid yn eich gwaith chi.
- Dysgu am ffyrdd defnyddiol o gasglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i gynhyrchu canfyddiadau cadarn mewn gwerthusiad sydd wedi’i seilio ar Theori Newid.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu theori newid yn eu mudiad, neu sydd am ddarganfod sut i wella arferion eu mudiad o ran effaith a gwerthuso yn fwy cyffredinol.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau pwrpasol a’u teilwra i ddiwallu anghenion eich mudiad. Cwblhewch ein ffurflen gais hyfforddiant pwrpasol a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Am unrhyw ymholiadau eraill e-bostiwch training@wcva.cymru.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.