Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector

Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i greu cynnwys

Categorïau: Cyfathrebu,

16 Hydref 2024
10 am – 12 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Amcanion

Rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi ddefnyddio AI i’ch helpu i greu cynnwys yn llwyddiannus ac yn effeithiol.

Cynnwys

Gall AI helpu eich mudiad i greu cynnwys yn gyflymach a dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu â’ch cynulleidfaoedd. Bydd y sesiwn hon yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o alluoedd a buddion posibl offer AI fel Chat GPT a Dall-E, a sut gellir eu defnyddio o fewn cyd-destun eich mudiad a chyfathrebiadau digidol.

Canlyniadau dysgu

  • Sut i ddefnyddio offer AI i’ch helpu i greu cynnwys yn gyflymach
  • Awgrymiadau ar ysgrifennu pwyntiau procio AI
  • Ffyrdd o greu cynnwys deniadol gan ddefnyddio offer AI
  • Ystyriaethau moesegol a chyfreithiol wrth ddechrau gydag AI
  • Y prif gamgymeriadau y gallai mudiadau gwirfoddol eu gwneud, a sut i’w hosgoi

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Os ydych chi’n gyfrifol am gyfryngau cymdeithasol eich mudiad ac eisiau creu cynnwys yn gyflymach neu ddysgu am dechnegau cyffrous newydd, yna mae’r hyfforddiant hwn i chi.

Ynglŷn â’r hyfforddwr

Bydd y sesiwn yn cael ei ddarparu gan Media Trust. Ym Media Trust, rydym ni’n credu mai trwy roi llais i bawb y cawn ni gymdeithas fwy cyfartal. Dyna pam rydym yn gweithio gyda channoedd o elusennau i gryfhau eu sgiliau adrodd stori, eirioli ac ymgyrchu, a’u gallu i ymgysylltu ac ymdrin â chyfryngau cymdeithasol.  

Mae Andrew Davis yn adnabyddus am gyflwyno hyfforddiant ymarferol ac ysbrydoledig ar gyfathrebiadau digidol, ac wedi gweithio gyda Media Trust am 10 mlynedd i adeiladu sgiliau cyfathrebu digidol, uchelgeisiau a hyder sector elusennol y DU. Mae gyrfa ddigidol Andrew yn cwmpasu mwy nag 20 mlynedd. Ar ôl gweithio fel safonwr ystafell sgwrsio ar Pop Idol a chyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl, Bu Andrew yn gynhyrchydd yr orsaf ddigidol, BBC Radio 1Xtra. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Rheolwr Myspace.com, lle yr helpodd i lansio ei isadran Marchnata a Chynnwys yn y DU cyn dechrau hyfforddi ac ymgynghori. 

Gofynion y cwrs

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
  • Profwch eich mynediad i Zoom
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon drwy LUMA, ein ap bwcio ar-lein, sicrhewch fod hysbysiadau gan LUMA wedi’u galluogi er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Mae’r hyfforddiant yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd SectorProMo-Cymru. Gallwch gael gafael ar gymorth un i un gyda digidol trwy DigiCymru.  

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.