Menywod yn gweithio wrth ddesg / Women working at a desk

Deall eich dogfen lywodraethu

Categorïau: Llywodraethu a diogelu,

16 Ebrill 2026
10 am – 12 pm | Caerdydd

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 2 awr / ystafell ddosbarth

​Cyflwynwyd gan Gyswllt Dibynadwy CGGC, Hugh James

Amcanion

​Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddeall eu dogfennau llywodraethu’n well, yr hyn y maen nhw’n gofyn i’r ymddiriedolwyr eu gwneud ac unrhyw gyfyngiadau a osodir ganddynt.

Cynnwys

​Bydd yr hyfforddwyr yn trafod y gwahanol fathau o gymalau a geir fel arfer mewn dogfennau llywodraethu elusennau. Ar ôl cyflwyniad byr ar bob math o gymal, bydd y mynychwyr yn cael cyfle i ddod o hyd i’r cymal yn nogfennau llywodraethu eu helusennau eu hunain ac i ystyried a yw’r cymal penodol hwnnw’n parhau i fod yn addas i’r diben neu a ddylid ei ddiweddaru.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr wedi dysgu/yn gallu:

  • ​Ddealltwriaeth well o ddogfen lywodraethu eu helusen ac unrhyw ddarpariaethau sydd angen eu hadolygu neu eu diweddaru.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

​Mae’r cwrs hwn i ymddiriedolwyr ac uwch arweinwyr.

​Wedi’i gyflwyno gan Harriet Morgan a Marie Philippe o Dîm Elusennau penodedig Hugh James yng Nghaerdydd. Mae gan Harriet a Marie brofiad helaeth o roi cyngor arbenigol i elusennau a mudiadau nid-er-elw o bob maint ar y gyfraith a llywodraethu.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?