two colleagues talking

Datblygu meddylfryd twf

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Cyflwynir gan Mandy Williams

Amcanion

Paratoi’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r adnoddau i feithrin ffordd o feddwl am dwf.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi feithrin ffordd o feddwl am dwf a fydd yn arwain at fwy o wydnwch, perfformiad personol gwell a’r gallu i groesawu newid mewn modd positif.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:

  • Deall cysyniad meddylfryd
  • Edrych ar fuddion meddylfryd twf
  • Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer twf

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.

Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?