Four people sit around table in office talking

Cynllunio’ch strategaeth ymgysylltu

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Amcanion

Eich galluogi i gynllunio strategaeth ymgysylltu yn well ar gyfer eich mudiad.

Cynnwys

Cynllunio i fethu yw methu â chynllunio – yn enwedig pan ddaw hi at ymgysylltu â’r cyhoedd. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich helpu i gynllunio strategaeth ymgysylltu, fel y gwyddoch eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i gysylltu’n effeithiol.

Byddwch yn defnyddio dulliau a gweithgareddau cyfranogol amrywiol i gynllunio strategaeth ymgysylltu gyda chynllun gweithredu cysylltiedig. Bydd y cwrs yn defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru fel sail i gynllunio’ch strategaeth.

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn ategu’r cwrs modiwlar 2-3 diwrnod, Ennyn Diddordeb y Cyhoedd ond mae’n addas hefyd fel cwrs ar ei ben ei hun.

Ynglŷn â’r hyfforddwr

Ganed Alain Thomas, y prif ymgynghorydd, ym Merthyr Tudful, ym 1954. Mae ganddo 12 mlynedd o brofiad fel ymarferydd datblygu cymunedol ac mae e’ wedi bod yn ymgynghorydd datblygu cymunedol ers 1989. Mynychodd Ysgol Uwchradd Afon Taf ym Merthyr Tudful ac mae ganddo radd anrhydedd (Prifysgol Cymru Aberystwyth) a chymwysterau ôl-raddedig mewn Gweinyddiaeth Gymdeithasol (Prifysgol Manceinion), a Gwaith Cymdeithasol Cymunedol (Prifysgol Cymru Abertawe).

Sefydlwyd Alain Thomas Consultancy ym 1989 i ddarparu cymorth costeffeithiol a hyblyg i fudiadau o bob math sy’n ymwneud â datblygu cymunedol. Gall Alain Thomas Consultancy alw ar wasanaethau sawl ymgynghorydd cyswllt sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad ategol.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:

  • Gallu defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol wrth greu strategaeth ymgysylltu
  • Gwybod â phwy y mae angen i chi ymgysylltu
  • Gallu dewis dulliau ymgysylltu i’w rhoi ar waith yn eich strategaeth
  • Gallu cynllunio’r amserlen ar gyfer strategaeth a chynllun gweithredu cysylltiedig

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Rheolwyr, Swyddogion Ymgysylltu, neu eraill sydd angen ennyn diddordeb y cyhoedd ac a hoffai ddatblygu ffordd fwy systematig a strategol o ymgysylltu â’r cyhoedd.

Gofynion y cwrs

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
  • Profwch eich mynediad i Zoom
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.

Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymruGallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n aelod, gwiriwch yma