28 Ebrill 2021 | 09:30am – 12.30pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Sut ydych chi’n dangos i ddarpar gefnogwyr, rhanddeiliaid a’ch hunan eich bod yn gallu cyflawni eich uchelgeisiau?
Waeth a ydych chi’n lansio prosiect newydd neu eisiau dangos bod eich mudiad yn addas i’r diben, bydd angen i chi greu cynllun clir. Bydd y sesiwn hanner diwrnod hon yn rhoi’r offer, yr ysbrydoliaeth a’r strwythur i ysgrifennu’r cynllun cymhellgar hwnnw.
Cynnwys
Rydych chi’n gwybod pam mae eich mudiad yn wych ac rydych chi’n frwdfrydig ynghylch ei botensial – ond a allwch chi berswadio eraill o hynny a’i brofi? Bydd y sesiwn ymarferol iawn hon yn eich tywys drwy’r prosesau allweddol y bydd angen i chi eu cyflawni i greu cynllun busnes defnyddiol ar gyfer eich mudiad neu brosiect. Byddwn ni’n eich helpu chi i nodi’r adnoddau y bydd eu hangen arnoch i greu cynllun clir sy’n ddefnyddiol i chi a’ch mudiad ac yn ennyn hyder ymhlith eich cefnogwyr.
Canlyniadau dysgu
- Deall rôl cynllun busnes wrth ddatblygu mudiad
- Deall sut i lunio cynllun sy’n ddefnyddiol ac yn effeithiol i chi
- Gwybodaeth allweddol sydd ei hangen i ddatblygu eich proses gynllunio eich hun
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Ymddiriedolwyr, staff neu wirfoddolwyr sy’n gyfrifol am arwain mudiadau neu brosiectau treftadaeth.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Richard yw Sylfaenydd y Funding Centre, ymgynghorwyr i’r Trydydd Sector. Mae ganddo ddegawdau o brofiad fel codwr arian dros brosiectau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Richard yn adnabyddus yn y Sector Treftadaeth yng Nghymru ac wedi gweithio mewn rolau fel swyddi fel Cyfarwyddwr Datblygu Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Mileniwm ac wedi parhau i weithio yn y sector Treftadaeth gan gefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd a mudiadau amgylcheddol er mwyn gwella’u heffeithlonrwydd.
Cymhwysedd
Caiff y weminar am ddim hon ei chyllido drwy ein prosiect Catalydd Cymru, felly mae wedi’i chreu’n benodol ar gyfer Mudiadau Treftadaeth yng Nghymru sydd â dibenion elusennol mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol: Adeiladau a Chofebau; Treftadaeth Gymunedol; Diwylliannau ac Atgofion; Tir a Threftadaeth Naturiol; Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth; Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, Archifau a Chasgliadau.
Os yw’r tocynnau wedi gwerthu allan e-bostiwch training@wcva.cymru i gael eich ychwanegu at y rhestr wrth gefn.