Cynllunio ac ysgrifennu cynigion cyllido llwyddiannus

Cynllunio ac ysgrifennu cynigion cyllido llwyddiannus

Categorïau: Cyllid, Wedi’i deilwra,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gynnig hyfforddiant TSSW WCVA

Nod 

Bydd yn eich helpu i ddeall beth sy’n gwneud ffurflen gais dda ac yn dangos buddion ac effaith y gwaith y byddwch chi’n ei gyflawni i gyllidwr ac, yn bwysig iawn, pam mai chi yw’r mudiad iawn i gyflawni’r gwaith hwn. 

Cynnwys 

Pa mor llwyddiannus yw eich ceisiadau cyllido? Ydych chi’n teimlo weithiau eich bod yn colli rhywbeth neu’n methu â chyfleu eich neges, neu efallai eich bod yn teimlo bod angen i chi edrych eto ar sut rydych chi’n ysgrifennu eich ffurflenni cais? 

Gyda mwy o gystadleuaeth am grantiau, a chan fod amser yn werthfawr, rydyn ni eisiau cael lefel dda o lwyddiant am ein hymdrechion; gall cael ei wrthod dro ar ôl tro ddigalonni rhywun, yn enwedig pan rydyn ni’n frwdfrydig am yr hyn rydyn ni’n ceisio ei gyflawni. 

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch chi’n:   

  • Deall pwysigrwydd cynllunio a pharatoi wrth ysgrifennu cais  
  • Gwybod camau’r gylchred cynllunio prosiect  
  • Gwybod sut i osod canlyniadau prosiect cryf a mesur y cynnydd yn eu herbyn  
  • Gallu nodi data priodol a pherthnasol i gefnogi anghenion eich prosiect  
  • Gallu adnabod cyllidwyr priodol  
  • Gallu llunio ceisiadau cryf yn hyderus gan osgoi camgymeriadau cyffredin  

I bwy mae’r sesiwn

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer pobl ag ychydig o brofiad o ysgrifennu cynigion a/neu ddatblygu prosiectau sydd angen cyllid. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd wedi datblygu’r rhan helaeth o’u sgiliau ysgrifennu cynigion drwy lunio cynigion yn ôl y gofyn, ac sydd eisiau mireinio eu harferion.   

Bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r rheini heb lawer o brofiad o ysgrifennu cynigion, ond sy’n gwybod eu hanghenion cyllido’n dda. 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?