14 Tachwedd 2023 | 10 am – 3.30 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Caiff y weminar hon ei chyflwyno drwy Zoom.
Amcanion
Mae’r byd yn newid. Mae costau’n cynyddu a chyfleoedd grant yn lleihau. Bydd y diwrnod dysgu hwn yn eich cynorthwyo i edrych ar amrywiaeth o ffrydiau incwm er mwyn diogelu eich mudiad ar gyfer y dyfodol.
Cynnwys
Yn y sesiwn hon, bydd codwyr arian profiadol yn eich tywys drwy ddulliau effeithiol o lunio grantiau, ysgrifennu tendrau, cynhyrchu incwm a rhoddion digidol.
Yn y sesiwn, byddwch chi hefyd yn cael sesiwn hyfforddi penodol ar godi arian digidol gan Givey (cwmni sydd wedi dod yn gydradd orau am bedair blynedd yn olynol gan ‘Charity Digital’ am arian a roddwyd i elusennau); yn ôl adroddiad sgiliau 2023 Charity Digital , mae bron dwy ran o dair (59%) o elusennau bach eisiau gwella eu hymdrechion codi arian ar-lein, sy’n gynnydd sylweddol o 49% y llynedd. Gwnaeth yr adroddiad hefyd ganfod bod mwy na hanner (55%) yr elusennau bach yn dweud nad ydynt yn dda am godi arian yn ddigidol – 49% oedd y ffigur hwn y llynedd. Awgryma hyn fod angen cynyddol i elusennau bach wella eu sgiliau codi arian digidol.
Canlyniadau Dysgu
- Syniadau ac awgrymiadau hanfodol ar gyfer llunio ceisiadau grant
- Nodi syniadau ar gyfer cynhyrchu incwm
- Cyflwyniad i dendro (is-gontractio)
- Cyflwyniad i roddion digidol
- Y tueddiadau diweddaraf mewn codi arian yn ddigidol
- Sut i greu ymgyrchoedd codi arian digidol effeithiol
- Sut i fesur llwyddiant eich ymdrechion codi arian digidol
- Sut i ddewis y platfform(au) ac adnoddau rhoi ar-lein cywir
Cymhwysedd
Cyllidir y rhaglen am ddim hon drwy ein prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae wedi’i hanelu’n benodol at fudiadau Treftadaeth* gwirfoddol yng Nghymru neu fudiadau sy’n rhedeg prosiect treftadaeth.
*Gellir diffinio treftadaeth fel:
- Treftadaeth gymunedol – e.e. prosiect sy’n canolbwyntio ar ardal leol er mwyn gwella / adfer / dehongli’r amgylchedd naturiol neu’r amgylchedd adeiledig
- Diwylliannau ac atgofion – e.e. dathlu diwylliannau amrywiol drwy’r celfyddydau neu drwy brosiectau hanes ar lafar
- Tirweddau a’r dreftadaeth naturiol – e.e. hyrwyddo natur/bioamrywiaeth
- Adeiladau hanesyddol a chofebau
- Diwydiannol, morol a thrafnidiaeth
- Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau
I bwy mae’r cwrs hwn?
Mae’r rhaglen hon yn briodol i bobl o bob lefel sy’n ymwneud â mudiadau treftadaeth.
Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i un unigolyn/mudiad.
Mae CGGC yn cyflwyno’r rhaglen hon mewn partneriaeth â Cwmpas
Mae’r sesiwn hyfforddi hon bellach yn llawn. Anfonwch e-bost i gael eich ychwanegu at y rhestr aros training@wcva.cymru.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Paul Stepczak yw Ymgynghorydd Tyfu Busnesau Cwmpas. Mae’n gweithio yn y tîm Dechrau Rhywbeth Da®, ac yn cydlynu ceisiadau grant a thendrau’r mudiad. Mae gan Paul 18 mlynedd o brofiad yn y trydydd sector fel ymgeisydd a darparwr cyllid. Mae Dechrau Rhywbeth Da® gan Cwmpas yn cynnig digwyddiadau hacathon i ddatblygu syniadau newydd, ynghyd â gweithdai byr, diwrnodau dysgu, gwasanaeth hwyluso a hyfforddiant.
Neil Mehta yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Givey. Mae Neil yn frwd am gefnogi elusennau bach a chymunedau lleol ar hyd a lled y byd.
Gemma Harbias yw Rheolwr Prosiect Givey ac mae’n frwdfrydig tu hwnt am wneud gwahaniaeth dros achosion da.