3 Mawrth 2026 | 10 am – 11 am | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
4 Mawrth 2026 | 10 am – 11 am | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 1 awr / ar-lein
Amcanion
Dysgu sut mae creu cynnwys bachog ac effeithiol yn ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynnwys
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfle gwych i gadw mewn cyswllt gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth a chyrraedd cefnogwyr a defnyddwyr newydd. Gall baratoi cynnwys Cymraeg eich helpu i gyrraedd dilynwyr newydd ac i sefyll allan. Byddwn yn ceisio ateb cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml gan elusennau am y ffordd orau o ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol trwy edrych ar enghreifftiau go iawn.
Byddwn yn ystyried gwahanol opsiynau sy’n addas ar gyfer sefydliadau sydd heb lawer o staff sy’n siarad Cymraeg a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio’n ddwyieithog. Byddwn hefyd yn trafod pa gymorth sydd ar gael i sefydliadau pan fo adnoddau’n brin.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y weminar bydd cyfranogwyr:
- Yn gwybod am ddefnydd clyfar o ddelweddau a phosteri
- Yn ymwybodol o ba gyfrifon eraill y gallwch eu tagio i gyrraedd pobl newydd
- Wedi cynyddu eu gwybodaeth o’r arfer orau wrth greu cynnwys dwyieithog
- Yn ymwybodol o offer ac adnoddau gallwch fanteisio arnynt i greu cynnwys Cymraeg
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol i swyddogion neu wirfoddolwyr gydag elusen sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar ddefnyddio mwy o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Noder: nid yw’r sesiwn wedi anelu at swyddogion o sefydliadau sydd â dyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sector gyhoeddus a rhai sefydliadau trydydd sector.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.