Llun: cyfarfod llywodraethu

Cyflwyniad i lywodraethu da

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg

1 x sesiwn tair awr / ar-lein

Nod  

Mae’r gweithdy hwn sy’n para am tair awr yn addas i bobl sy’n dymuno cynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau, a’u hyder o ran llywodraethu elusennau.  

Cynnwys 

Mae llywodraethu da yn hanfodol er mwyn sicrhau gwydnwch a llwyddiant elusen. Bydd y cwrs ar-lein, rhyngweithiol hwn yn eich cyflwyno chi i egwyddorion llywodraethu da sy’n seiliedig ar y Côd Llywodraethu i Elusennau a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau.  

Bydd yn eich helpu chi i gymhwyso egwyddorion y Côd i gyd-destun eich elusen ac yn rhoi adnoddau ymarferol ar gyfer gwella llywodraethu yn eich elusen.  

Canlyniadau Dysgu   

Trwy fynychu’r cwrs, byddwch chi’n:  

  • Deall ystyr ‘llywodraethu da’ yng nghyd-destun elusennau ac yn gallu cymhwyso hyn yn eich elusen 
  • Deall y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli a pham bod hyn yn bwysig  
  • Meddu ar lefel uwch o wybodaeth am rôl a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr unigol   
  • Meddu ar lefel uwch o wybodaeth am rôl y Bwrdd (neu’r pwyllgor rheoli) fel grŵp  
  • Meddu ar lefel uwch o ymwybyddiaeth o gamau syml y gellir eu cymryd i wella llywodraethu yn eich elusen a ble i ddod o hyd i ragor o adnoddau 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?  

Mae hwn yn gwrs sylfaenol, felly mae’n fwyaf addas i bobl sy’n newydd i’w rôl lywodraethu neu sy’n dymuno gloywi eu gwybodaeth. Yn bennaf, bydd hyn yn cynnwys ymddiriedolwyr, ond gall hefyd gynnwys aelodau staff penodol megis Prif Weithredwyr, swyddogion llywodraethu, ysgrifenyddion cwmni ac arweinwyr cyllid.  

Mae’r cwrs hwn yn cymryd yn ganiataol bod eich elusen eisoes yn meddu ar safon sylfaenol o lywodraethu fel isafswm y gellir gweithio oddi arni. Er enghraifft, dogfen lywodraethu ysgrifenedig neu Fwrdd neu bwyllgor a ddiffiniwyd sy’n ymwybodol eu bod yn gyfrifol am lywodraethu yn yr elusen.  

Os ydych chi’n chwilio am gyd-destun uwch, efallai y bydd ein cwrs Y Tu Hwnt i’r Wybodaeth Sylfaenol yn fwy addas i chi.  

Os ydych chi’n meddwl bod eich Bwrdd mewn cyfnod o argyfwng ar hyn o bryd neu os yw’n profi problemau difrifol o ran llywodraethu, cysylltwch â CGGC neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol i drafod y materion cyn mynychu’r cwrs hwn.  

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?