Dylunio arolygon

Cyflwyniad i ddylunio a chynnal arolygon

Categorïau: Cyfathrebu,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg

Amcanion

I’ch cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon.

Cynnwys

Mae arolygon yn ffordd wych o glywed gan lawer o bobl yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Fel arfer caiff gwybodaeth ei gasglu drwy holiadur, y gellir ei ddosbarthu’n electronig, ar bapur, neu hyd yn oed trwy gyfweliad. Efallai mai’r arolwg mwyaf adnabyddus yw’r Cyfrifiad. Mae llawer o fathau o arolwg. Bydd pa un rydych chi’n ei ddewis yn dibynnu ar ddiben yr arolwg, yr amserlen am gasglu’r canlyniadau, a’r adnoddau sydd ar gael. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • dylunio arolygon
  • y technegau samplo mwyaf cyffredin
  • sut i lunio cwestiynau arolwg
  • sut i beilota a chynnal arolwg
  • sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn

Mae’r cwrs hwn i staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddylunio neu ddadansoddi arolwg. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi’i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio neu ddadansoddi arolwg.

Ynglŷn â’r hyfforddwr 

Cyflwynir yr hyfforddiant gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.  

Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru. 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?