Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg
Amcanion
I’ch cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon.
Cynnwys
Mae arolygon yn ffordd wych o glywed gan lawer o bobl yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Fel arfer caiff gwybodaeth ei gasglu drwy holiadur, y gellir ei ddosbarthu’n electronig, ar bapur, neu hyd yn oed trwy gyfweliad. Efallai mai’r arolwg mwyaf adnabyddus yw’r Cyfrifiad. Mae llawer o fathau o arolwg. Bydd pa un rydych chi’n ei ddewis yn dibynnu ar ddiben yr arolwg, yr amserlen am gasglu’r canlyniadau, a’r adnoddau sydd ar gael. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- dylunio arolygon
- y technegau samplo mwyaf cyffredin
- sut i lunio cwestiynau arolwg
- sut i beilota a chynnal arolwg
- sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn
Mae’r cwrs hwn i staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddylunio neu ddadansoddi arolwg. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi’i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio neu ddadansoddi arolwg.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Cyflwynir yr hyfforddiant gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.
Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Teams
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon drwy LUMA, ein ap bwcio ar-lein, sicrhewch fod hysbysiadau gan LUMA wedi’u galluogi er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.