25 Chwefror 2021 | 10:00 – 12:30
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Cael gwybod am y prif feysydd diogelu ac arferion da ar gyfer mudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Cynnwys
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod “Cyfrifoldeb ar bawb i ddiogelu”. Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i holl fudiadau’r sector gwirfoddol, yn enwedig y rheini sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i arferion da mewn diogelu ar gyfer pobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae diogelu da a phriodol yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ynghylch eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r sector gwirfoddol yn gyffredinol.
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr:
- Gyda mwy o ddealltwriaeth o’r hyn a olygir wrth “ddiogelu” a sut mae’n berthnasol i’w rôl
- Gyda mwy o ymwybyddiaeth o’r polisi ac arferion diogelu disgwyliedig ar gyfer mudiadau gwirfoddol
- Gyda mwy o ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n tanseilio diogelu yng Nghymru
- Yn gwybod i ble i ddod o hyd i amrywiaeth ehangach o adnoddau diogelu
I bwy mae’r sesiwn
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn arbennig o briodol ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau’r sector gwirfoddol sydd eisiau cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddiogelu. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ategu hyfforddiant wyneb yn wyneb neu fel sesiwn loywi.
Bydd y cwrs yn cynnwys ychydig o waith paratoadol a chwis ar y diwedd i brofi eich gwybodaeth. Bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei darparu.