Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
1 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi am ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar gyfer y DU a’r UE, gan roi ymwybyddiaeth i chi o ddiogelu data a’i effaith ar eich rôl.
Cynnwys
Rydyn ni wedi gweld newidiadau sylweddol mewn cyfreithiau diogelu data gyda’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Gan ystyried yr effaith sylweddol y mae data yn ei chael ar ein bywydau personol a phroffesiynol, a’r rôl mae’n ei chwarae ynddynt, mae’r GDPR yn cyflwyno set o ddeddfau sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod y safonau uchaf o ddiogelu data wrth wraidd eich gweithrediadau. Bydd y cwrs hwn yn helpu’r rheini sy’n ymwneud â thrin gwybodaeth pobl i allu mabwysiadu’r arferion cydymffurfio hyn o fewn eu mudiad.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
- Defnyddio terminoleg Diogelu Data allweddol yn hyderus
- Deall egwyddorion diogelu data
- Defnyddio’r wybodaeth i gyflawni’ch rôl mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
- Egluro sut i lunio hysbysiad preifatrwydd
- Disgrifio’r prif resymau pam mae elusennau wedi cael dirwyon gan y rheoleiddiwr
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Bwriedir y cwrs hwn i unrhyw aelod o staff sy’n trin data personol fel rhan o’u gwaith bob dydd. Gallai’r rhain fod yn arweinwyr diogelu data, ac unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn diogelu data.
Hyforddwr
Fflur Jones, Darwin Gray
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.