cydweithwyr yn siarad

Cyflwyniad i ddatblygu strategaeth codi arian

Categorïau: Cyllid, Wedi’i deilwra,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Nod

Rhoi’r hyder i gyfranogwyr ddatblygu strategaeth codi arian ar gyfer eu mudiad.

Cynnwys

Dros ddwy sesiwn ar-lein, bydd y cwrs hwn yn edrych ar yr hyn y dylid ei gynnwys mewn strategaeth codi arian ar gyfer mudiad gwirfoddol.

Gall mudiadau o bob maint ac incwm ddatblygu strategaeth codi arian. Mae pob elusen a mudiad gwirfoddol yn unigryw, felly dylai ei strategaeth codi arian fod yn unigryw hefyd; nid oes safon bendant o ran sut ddylai edrych na pha mor fanwl y dylai fod. Fodd bynnag, mae gan CGGC syniad clir o’r hyn y dylai’r strategaeth ei chynnwys yn gyffredinol er mwyn adeiladu arferion da. Bydd y cwrs hwn yn gweithio drwy’r cynnwys hwn ac yn edrych ar sut gallwch chi fynd ati i edrych am, a nodi’r hyn sy’n iawn ar gyfer strategaeth codi arian eich mudiad.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn:

  • Deall pwysigrwydd defnyddio dull strategol o fynd ati i godi arian
  • Gallu datblygu dogfen codi arian strategol
  • Gwybod ble i ddod o hyd i adnoddau pellach ar offer cynllunio a dulliau codi arian

I bwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn i bobl sydd eisiau mynd ati i godi arian a chreu incwm mewn modd strategol. Gallai hyn fod ar ddechrau eich taith codi arian neu wrth i chi feddwl am ailwampio strategaeth sy’n bodoli eisoes (yn enwedig yn sgil y dirwedd newidiol sydd wedi’i chreu gan bandemig Covid 19). Bydd y cwrs yn siarad yn gyffredinol, felly dylai fod yn berthnasol i fudiadau o unrhyw faint.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?