Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir yn ddwyieithog
Amcanion
Rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o adennill costau llawn yn ogystal â’r offer angenrheidiol i gyfrifo costau llawn eu mudiad.
Cynnwys
Gall methiant i ariannu gorbenion eich prosiect yn briodol arwain at ansefydlogrwydd, gwasanaeth gwael yn ogystal â bygwth cynaliadwyedd eich mudiad.
Costau sy’n rhannol gefnogi’r prosiect yw gorbenion, ond sydd hefyd yn cefnogi prosiectau neu weithgareddau eraill mae’ch mudiad yn eu darparu. Gall y rhain gynnwys cyfran o gyflogau staff craidd megis gweinyddwyr, costau rhentu a chyfleustodau neu ffioedd cyfreithiol ac archwilio’ch mudiad.
Ffordd o ddyrannu costau yw adennill costau llawn sy’n sicrhau bod yr holl orbenion wedi’u cynnwys yn eich cyllidebau wrth ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiect neu’n ymgeisio am wasanaethau.
Bydd y gweithdy hanner diwrnod hwn yn rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o Adennill Costau Llawn yn ogystal â chyflwyno’r gwahanol offer a thechnegau angenrheidiol i ganfod a dadansoddi costau llawn eu mudiad ar gyfer prosiect penodol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn…
- Gwerthfawrogi cysyniad adennill costau llawn a’r rôl mae’n ei chwarae yn sicrhau cynaliadwyedd ariannol
- Deall yr egwyddorion a’r dulliau a ddefnyddir wrth ganfod a chyfrifo costau llawn
- Gallu dadansoddi a dyrannu gwir gostau rhedeg mudiad a’i weithgareddau
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Mae’n addas i’r rheini sy’n newydd i godi arian ac adennill costau llawn.
Yr hyfforddwr
Mae Richard Roberts wedi bod yn gweithio ym maes codi arian ers dros 10 mlynedd, gan reoli prosiect Catalydd Cymru yn ddiweddar a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i helpu mudiadau treftadaeth yng Nghymru i ddatblygu eu gallu i godi arian o ffynonellau preifat.
Cyn hyn bu Richard yn gweithio yn nhîm Cynigion Gwella WCVA yn helpu mudiadau trydydd sector i sicrhau dros £70m yn ystod oes y contract. Mae gan Richard Ddiploma mewn Codi Arian ac mae ganddo brofiad helaeth o ddarparu hyfforddiant diddorol ac addysgiadol.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.