Presenting data

Cyfleu eich pwynt: Cyflwyniad i gyflwyno data yn effeithiol

Categorïau: Cyfathrebu,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg

Amcanion

I’ch cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno data’n effeithiol – mewn tablau, siartiau, mapiau neu destun.

Cynnwys

Rydym yn cael ein bwrw gan ddata bob dydd; ar y teledu, ein ffonau clyfar, cyfrifiaduron, ar y radio, mewn papurau newydd, ar hysbysfyrddau, posteri, ac arwyddion, o’r cyfryngau, sylwebwyr, ein cydweithwyr a’n ffrindiau.

Er mwyn sicrhau bod eich negeseuon yn hawdd eu deall ac yn denu sylw, rhaid i chi eu cyflwyno’n glir ac yn gywir. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i gyflwyno’ch data chi’n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa’n deall y negeseuon arfaethedig yn gyflym ac yn rhwydd.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • yr egwyddorion sy’n sail i gyflwyniad data da
  • y dulliau mwyaf cyffredin o gyflwyno data – y da a’r drwg
  • sut mae cyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd i greu’r effaith fwyaf.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn

Mae’r cwrs hwn i staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am gyflwyno data yn effeithiol. Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.

Ynglŷn â’r hyfforddwr 

Cyflwynir yr hyfforddiant gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.  

Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru. 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?