Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024.
Cysylltwch ag archebion@wcva.cymru i gofrestru eich diddordeb
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y dulliau ac offer i wella cyfathrebu a chydweithio yn y gweithle. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol ar gyfer cydweithio’n effeithiol o fewn amgylcheddau rhithwir, gan feithrin gwaith tîm a chyfathrebu mwy effeithlon yn y gweithle digidol.
Cynnwys
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer digidol i wella eich cyfathrebu a chydweithio yn y gwaith. Byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio offer penodol i gyflawni hyn, fel Slack, Padlet, PollEverywhere ac eraill. Fel rhan o’r sesiwn hon, byddwch yn dysgu am fanteision ac anfanteision cydweithio a chyfathrebu digidol, a sut i ddefnyddio gwahanol strategaethau i gefnogi gweithio digidol llwyddiannus yn eich gweithle.
Bydd y sesiwn yn edrych ar opsiynau offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch:
- Wedi dysgu buddion cydweithio a chyfathrebu digidol.
- Yn gallu datrys problemau ac osgoi materion technegol wrth gynnal/mynychu cyfarfodydd rhithwir.
- Yn gallu defnyddio offer cydweithio a chyfathrebu digidol yn effeithiol i gefnogi’ch gwaith.
- Yn gallu deall gwahanol ddulliau cydweithio a chyfathrebu digidol er mwyn edrych arnyn nhw a’u haddasu ar gyfer eich gweithle.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn gwella sut maen nhw’n defnyddio digidol i gyfathrebu a chydweithio yn y gwaith. Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer pobl sydd:
- Yn defnyddio offer digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa.
- Yn gyfarwydd ag offer cydweithio rhithwir cyffredin.
- Â phrofiad blaenorol o weithio mewn timau neu leoliadau cydweithredol.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Teams
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch ag archebion@wcva.cymru.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru
SAESNEG
Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024.