Dim ond wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer cwsmer y caiff y cwrs hwn ei ddarparu – nid yw ar gael ar ein rhaglen hyfforddi gyhoeddus. Cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am eich anghenion dysgu.
Gall cydgynhyrchu, os yw’n cael ei wneud yn dda, sicrhau bod gan ddinasyddion lais ystyrlon a’u bod yn y canol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar gyd-destun cydgynhyrchu yng Nghymru ac yn egluro terminoleg cydgynhyrchu. Byddwn yn ystyried y ffactorau sydd eu hangen er mwyn cydgynhyrchu’n effeithiol, megis newid diwylliannol er mwyn rhannu pŵer â dinasyddion a dull seiliedig ar asedau.
Byddwn hefyd yn ystyried manteision a heriau cydgynhyrchu. Bydd astudiaethau achos sy’n dangos cydgynhyrchu ar waith yn cael eu rhannu yn ystod y cwrs a bydd cyfle i ymarfer nifer o ddulliau cynllunio cyfranogol.
Amcanion
Cyflwyno cysyniad cydgynhyrchu a sut i’w ddefnyddio wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr wedi…
- Rhoi cydgynhyrchu yng Nghymru yn ei gyd-destun
- Ennill gwell ddealltwriaeth o’r hyn a olygir wrth gydgynhyrchu
- Trafod y cyd-destun diwylliannol sydd ei angen i gydgynhyrchu ffynnu
- Dod i werthfawrogi’r manteision a’r heriau
- Rhannu astudiaethau achos o gydgynhyrchu ar waith
- Ymarfer dulliau cynllunio cyfranogol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion, cymunedau a mudiadau sydd am ddatblygu a chynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithio mewn ffordd gydgynhyrchiol.
Hyd
1 diwrnod