Amcanion
Helpu mudiadau treftadaeth gwirfoddol bach a chanolig eu maint i ddysgu a rhoi’r sgiliau, y technegau a’r syniadau da ar waith er mwyn cyrraedd a recriwtio’r aelodau bwrdd gorau er mwyn rhoi hwb i’w canlyniadau elusennol.
I bwy mae’r cwrs hwn?
Aelodau bwrdd a staff mudiadau Treftadaeth gwirfoddol yng Nghymru sy’n rhannol neu’n gyfan gwbl gyfrifol am recriwtio aelodau bwrdd o fewn eu mudiadau.
Cyd-destun
Ceir pum dosbarth meistr a fydd yn plymio’n ddwfn i bob cam sydd ei angen i fynd ati’n llwyddiannus i recriwtio aelodau bwrdd amrywiol:
Teitl y Dosbarth Meistr | Dyddiad | Amser |
Ystyried pwy sydd ei angen arnoch ar eich bwrdd (archwiliadau sgiliau) | 22 Chwefror 2023 | 12:30-13:30 |
Ysgrifennu hysbyseb a phecyn gwybodaeth cymhellol i ymddiriedolwyr | 1 Mawrth 2023 | 12:30-13:30 |
Sut i ddod o hyd i’ch ymddiriedolwyr newydd (hysbysebu) | 8 Mawrth 2023 | 12:30-13:30 |
Creu rhestr fer a chyfweld ymddiriedolwyr posibl | 15 Mawrth 2023 | 12:30 – 13:30 |
Sut i sicrhau bod eich ymddiriedolwyr yn cael y cychwyn gorau posibl | 22 Mawrth 2023 | 12:30-13:30 |
Clinig (eich cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â recriwtio ymddiriedolwyr a rhannu’ch straeon llwyddiant) | 26 Ebrill 2023 | 12:30-13:30 |
Bydd y sesiynau’n rhyngweithiol gan gynnwys defnyddio ystafelloedd ar wahân ar Zoom i alluogi gwaith grŵp, asesu dulliau mudiadau eraill ac edrych ar esiamplau o arferion gorau ar draws y sector elusennol.
Nodwch, os gwelwch yn dda, fod y Dosbarthiadau Meistr wedi’u cynllunio ar gyfer un garfan a bydd angen i chi allu ymrwymo i’r holl ddyddiadau a restrwyd. Cyfyngir lleoedd i uchafswm o 20.
Canlyniadau Dysgu – Erbyn diwedd y cwrs byddwch:
- Yn deall pwysigrwydd a manteision byrddau amrywiol
- Yn gallu cynllunio proses sy’n annog a galluogi recriwtio bwrdd cynhwysol
- Wedi ymwreiddio egwyddorion arferion gorau yn eich proses recriwtio bwrdd
- Wedi dechrau dylunio pob elfen o fewn y cwrs (h.y. byddwch wedi dechrau drafftio set o gwestiynau cyfweliad).
Cymhwysedd
Caiff y Cwrs Dosbarth Meistr am ddim hon ei chyllido drwy ein prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae ar gyfer mudiadau Treftadaeth* gwirfoddol yng Nghymru / mudiadau sy’n rhedeg prosiect treftadaeth yn benodol.
*Gellir diffinio treftadaeth fel:
- Treftadaeth Gymunedol – e.e. prosiect sy’n canolbwyntio ar ardal leol er mwyn gwella/adfer/dehongli’r amgylchedd naturiol neu adeiledig
- Diwylliannau ac Atgofion – e.e. dathlu diwylliannau amrywiol drwy brosiectau celfyddydol/hanes llafar
- Tirweddau a Threftadaeth Naturiol, e.e. hyrwyddo natur/bioamrywiaeth
- Adeiladau Hanesyddol a Henebion
- Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth
- Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau
Mae’r lleoedd ar y cwrs Dosbarth Meistr wedi’u cyfyngu i un unigolyn/mudiad
Cadwch eich lle ar y cwrs Dosbarth Meistr yn defnyddio’r ffurflen fer yma.
Dilynwch @CatalystCymru i gael manylion cyrsiau hyfforddi newydd a dyddiadau gweminar a fydd yn dod yn fuan.