Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Mae’r gweithdy 3 awr hwn ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau sy’n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder mewn arweinyddiaeth a llywodraethiant.
Cynnwys
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn eich tywys trwy ystod o egwyddorion arweinyddiaeth a llywodraethiant, wedi’u seilio ar y Cod Llywodraethu i Elusennau. Bydd cyfleoedd i drafod arfer dda gyda chyd-ymddiriedolwyr yn ystod y gweithdy hyfforddi cyfranogol hwn.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniadau, gwaith grŵp bach a thrafodaeth. Cefnogir yr hyfforddiant gan sleidiau PowerPoint a set gyflawn o daflenni yn ogystal â dolenni i Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Canlyniadau Dysgu
Trwy fynychu’r cwrs byddwch yn:
- Archwilio rôl arweinyddol y Bwrdd/ pwyllgor rheoli
- Gwella meddwl a chymhwysiad strategol
- Adeiladu’r TÎM Llywodraethu
- Ysgogi ac arwain newid cadarnhaol
I bwy mae’r cwrs?
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer ymddiriedolwyr newydd a rhai sy’n weithredol ers tro. Gallai fod o ddiddordeb hefyd i bobl sy’n ystyried dod yn ymddiriedolwr ac sydd eisiau dysgu mwy ynglŷn â rôl strategol ac arweinyddol y Bwrdd.