23 Mawrth 2023 | 10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nodau
A yw eich elusen yn or-ddibynnol ar gyllid grant? A hoffech chi gael awgrymiadau a syniadau ymarferol i’w rhoi ar waith o fewn eich mudiad a allai helpu eich elusen fechan i gynyddu ei hincwm anghyfyngedig? Os felly, mae’r cwrs hwn yn bendant i chi.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o elusennau llai yn or-ddibynnol ar gyllid grant ar hyn o bryd, ac mae’n dod yn fwyfwy anodd wrth i fwy a mwy o elusennau geisio cyllid gan yr un cyllidwyr. Nod y cwrs hwn yw cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar elusennau i roi ffrydiau incwm newydd ar waith a chynhyrchu mwy o gyllid anghyfyngedig.
Cynnwys
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at elusennau bach sydd ag ychydig iawn o adnoddau codi arian, a naill ai heb staff codi arian penodedig neu efallai un aelod o staff. Nid yw’r cwrs hwn yn addas i elusennau â thimau codi arian penodedig. Bydd y cwrs hwn yn helpu i roi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i helpu i amrywio eich ffrydiau incwm a chael cymaint â phosibl o incwm anghyfyngedig.
Bydd y cwrs hwn yn llawn awgrymiadau a syniadau ymarferol y gallwch chi fynd ymaith â chi i’w rhoi ar waith ar unwaith fel eich bod yn dod yn llai dibynnol ar gyllid grant.
Canlyniadau dysgu
- Nodi pa ffrydiau incwm newydd sy’n debygol o fod yn llwyddiannus i’ch mudiad
- Cael y budd mwyaf o’r adnoddau sydd gennych chi, gan gynnwys eich staff, gwirfoddolwyr a’ch Ymddiriedolwyr
- Dysgu mwy am sut i fynd ati’n llwyddiannus i gynllunio, hyrwyddo a chyflwyno digwyddiadau ar gyfer eich mudiad
- Cael gwybodaeth lawn am yr holl ffynonellau o incwm anghyfyngedig sydd ar gael i’ch elusen fel “enillion cyflym”
I bwy mae’r cwrs
Elusennau bach; elusennau heb fawr iawn o staff codi arian, os o gwbl.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Zoom
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi. Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n aelod? Gwiriwch yma.