Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcan
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn darparu cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rheoli a’ch hyder wrth reoli unigolion a thîm o staff.
Cynnwys
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar yr arferion gorau mewn arwain a rheoli perfformiad staff, gan gynnwys hwyluso arolygiadau ac adolygiadau blynyddol, a sut i ddelio â sgyrsiau anodd. Byddwn yn ymdrin â’r theori yn ogystal â chynghorion a thechnegau fel bod modd i chi weithredu’ch dysgu yn ôl yn y gweithle.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniadau, gwaith mewn grwpiau bychain, trafodaethau a sesiynau ymarfer. Cefnogir yr hyfforddiant gan gyflwyniad PwerBwynt a set gyflawn o daflenni.
Deilliannau dysgu
Gweithdy 1:
- Bod yn hyderus wrth weithredu fframwaith rheoli perfformiad – adnabod, rheoli a gwerthuso perfformiad.
- Llwyddo i greu amgylchedd ysgogol ac adeiladu ymddiriedaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein.
- Gwerthfawrogi pwrpas arolygu ac arfarnu.
- Gwerthfawrogi sut i gynnal arolygiadau ac arfarniadau 1:1 (wyneb yn wyneb a/ neu o bell).
- Deall sut i osod amcanion mesuradwy a darparu adborth.
Gweithdy 2:
- Ystyried sut i holi cwestiynau craff a rhoi adborth i weithwyr ar safle neu o bell.
- Deall sut i fynd i’r afael â pherfformiad gwael.
- Sut i gynllunio a strwythuro sgyrsiau anodd.
- Deall sut i ddelio â sgyrsiau anodd.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn rôl rheoli llinell – pa un eich bod yn brofiadol ac yn edrych am sesiwn ddiweddaru, neu eich bod yn rheoli pobl am y tro cyntaf.