Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Amcanion
Yn y cwrs hanner diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar sut gallwch chi gasglu, dadansoddi a defnyddio data i lywio eich penderfyniadau. Byddwn hefyd yn edrych ar arferion gorau ar gyfer diogelu eich data.
Cynnwys
Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rheini sydd eisiau defnyddio data fel ased strategol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer fel Microsoft Forms i gasglu data, a Microsoft Excel i ddadansoddi, a chyflwyno’r data hwnnw’n effeithiol. Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin ag egwyddorion diogelu data hanfodol ac yn dangos sut i amgryptio, a diogelu ffeiliau a ffolderi â chyfrinair.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn hon, byddwch yn:
- Gallu defnyddio arferion gorau i ddiogelu gwybodaeth sensitif, gan gynnwys amgryptio data a rheoli mynediad.
- Deall yn well sut i ddefnyddio offer fel taenlenni, cronfeydd data, a meddalwedd delweddu data yn effeithiol er mwyn rheoli a dadansoddi data.
- Defnyddio data i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar fewnwelediadau sy’n deillio o ddadansoddi data.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sydd eisiau gwella’r ffordd y maen nhw’n defnyddio eu data i ddangos effaith a llywio eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer pobl sydd:
- Yn gyfarwydd â chysyniadau data sylfaenol, fel mathau o ddata, fformatau data, a ffynonellau data.
- Â phrofiad o ddefnyddio offer meddalwedd fel taenlenni, cronfeydd data, ac offer delweddu data.
- Â gwybodaeth sylfaenol am reoliadau ac egwyddorion diogelu data.
- Ag ymwybyddiaeth o ofynion cydymffurfio sy’n ymwneud â diogelu data a phreifatrwydd.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Teams
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch ag archebion@wcva.cymru.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru
SAESNEG
CYMRAEG