logo

Bod yn Ymddiriedolwr

Categorïau: Llywodraethu a diogelu,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Mewn dathliad o Wythnos yr Ymddiriedolwyr, bydd yr hyfforddiant hwn yn rhad ac am ddim i’w fynychu.

Nod y gweithdy

Paratoi dysgwr â’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn ymddiriedolwyr effeithiol a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar swyddogion i recriwtio, cynefino a rheoli bwrdd ymddiriedolwyr.

Cynnwys

Cwrs rhagarweiniol yw hwn i ddarpar ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr cyfredol a swyddogion sy’n gweithio gydag ymddiriedolwyr. Mae’n ymdrin â’r elfennau hanfodol o fod yn ymddiriedolwr effeithiol, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, dealltwriaeth o strwythurau llywodraethu, beth yw’r arferion da mewn llywodraethu a sut i recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr yn effeithiol.

Canlyniadau Dysgu

​Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd dysgwyr yn:

  • ​Deall y rolau a’r cyfrifoldebau o fod yn ymddiriedolwr
  • Deall y prif strwythurau llywodraethu
  • ​Deall beth yw’r arferion da
  • ​Gallu rhoi prosesau recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr effeithiol ar waith
  • ​Gwybod ble i ddod o hyd i adnoddau a chanllawiau perthnasol

I bwy mae’r sesiwn

Darpar ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr newydd ac ymddiriedolwyr cyfredol; swyddogion â chyfrifoldeb dros reoli bwrdd ac ymddiriedolwyr. Gellir addasu’r cwrs hwn ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ac amserlenni.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?