Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
3 x sesiwn 6 awr / ystafell ddosbarth
Amcanion
Mae’r cwrs tri diwrnod hwn yn bwriadu ymgysylltu ag arweinyddion ar bob lefel o fewn mudiadau trydydd sector. Byddwn yn archwilio pa fath o arweinyddiaeth sydd ei angen wedi Brexit ac yn benodol yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Cynnwys
Yr ydym y byw mewn cyfnod heriol yn wleidyddol ac economaidd sy’n galw am arweinwyr cryf ac arloesool sy’n fodlon gwneud newidiadau a rhoi cynnig ar bethau gwahanol. Mae arweinyddion yn chwarae rôl arwyddocaol mewn cefnogi newid trawsffurfiol, grymuso pobl ac annog cymryd risg sydd wedi’i reoli’n dda.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn:
- Cael y cyfle i ddysgu o brofiadau’r naill a’r llall mewn rholiau arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn y trydydd sector mewn amgylchedd dysgu weithredol
- Archwilio gwahanol arddulliau o arweinyddiaeth a gwerthuso eu defnyddioldeb ar gyfer cyd-destun y presennol a’r dyfodol
- Darganfod strategaethau gwahanol a’r sgiliau sydd eu hangen i adeiladu arweinyddion gwydn
- Gweithio ar feysydd i’w datblygu mewn cyfathrebu, adeiladu perthnasau a dylanwadu
- Archwilio’r deinamig rhwng arweinyddiaeth a llywodraethu
Canlyniadau dysgu
Drwy gwblhau’r rhaglen, bydd gennych:
- Well dealltwriaeth o’ch arddull arwain
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae arweinyddiaeth wych yn edrych drwy ryngweithio gydag eraill
- Adeiladu eich ystod o strategaethau i adeiladu gwydnwch a chapasiti am newid
- Cynyddu sgiliau mewn meysydd o gyfathrebu, adeiladu perthnasau a dylanwadu
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Os oes gennych rôl arweinydd ar unrhyw lefel o fewn eich mudiad neu gymuned, un ai yn wirfoddol neu’n gyflogedig, yna dyma yw’r cwrs ar eich cyfer chi.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.