5 Mai 2026
9.30 am – 12.30 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Cyflwynir gan Mandy Williams
Amcanion
Rhoi’r adnoddau i gyfranogwyr reoli newid sefydliadol yn effeithiol.
Cynnwys
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i fodel ar gyfer newid, cyfle i fyfyrio ar y cyfnodau o newid y mae pobl yn mynd drwyddynt a’u hymatebion gwahanol. Bydd hefyd yn cynnig strategaethau ar gyfer rheoli newid yn effeithiol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- Deall beth sy’n digwydd pan gaiff newid ei roi ar waith
- Myfyrio ar ymatebion gwahanol pobl i newid a sut i’w rheoli
- Ymdrin yn well â newid gan ddefnyddio strategaethau gwahanol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.
Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.