Cydweithwyr yn eistedd o amgylch bwrdd

Adnoddau i wella gwaith tîm digidol

Categorïau: Cyfathrebu,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg

Amcanion

Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut gallwch ddefnyddio adnoddau digidol i gefnogi gwaith tîm yn eich mudiad. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut gall yr adnoddau hyn wella cyfathrebu a chydweithio, gan alluogi timau i gadw mewn cysylltiad a gweithio’n effeithlon mewn gweithleoedd hybrid.

Cynnwys

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:

  • Hanfodion cyfathrebu a chydweithio digidol
  • Awgrymiadau ar adeiladu a chynnal timau effeithiol ar-lein
  • Prif nodweddion a swyddogaethau adnoddau cyfathrebu a chydweithio poblogaidd.

Bydd yr adnoddau a ddefnyddir yn y sesiwn hon yn cynnwys:

Microsoft Teams, Padlet, Sway ac eraill.

Canlyniadau dysgu

Ar ôl mynychu’r sesiwn hon, byddwch:

  • Yn deall prif egwyddorion cyfathrebu a chydweithio digidol effeithiol
  • Wedi edrych ar amrywiaeth o adnoddau i gefnogi gwaith tîm ar-lein
  • Yn gadael gydag awgrymiadau ac adnoddau y gallwch eu rhoi ar waith i’ch cynorthwyo â gwaith tîm digidol yn eich mudiad.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn

Mae’r cwrs hwn i staff y sector gwirfoddol neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut gall adnoddau digidol gwahanol gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i bobl:

  • Sy’n defnyddio Microsoft 365 yn eu gweithle
  • Sy’n defnyddio adnoddau digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa
  • A hoffai wella eu cyfathrebu a/neu gydweithio digidol
  • Sydd â diddordeb mewn edrych ar, a dysgu am adnoddau a thechnolegau digidol

Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:

  • Sut gallwn ni gyfathrebu’n well yn fewnol?
  • Pa adnoddau all fy helpu i a’m cydweithwyr i weithio ar brosiectau gyda’n gilydd?
  • Sut rydym yn cydweithio fel tîm hybrid/o bell?

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch â digidol@wcva.cymru

Ymunwch â’r sesiwn hyfforddi hon ar liniadur neu gyfrifiadur personol oherwydd bydd cyfle i brofi’r adnoddau yn y sesiwn.

Ynglŷn â’r hyfforddwr 

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru. 

 Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru. 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?