Mae gwleidydd yn ystumio â'i ddwylo wrth iddo wneud dadl angerddol yn ystod dadl, mae'n eistedd wrth fwrdd hir gyda siaradwyr eraill, nodiadau a meicroffonau

Trafodaeth y Senedd yn amlygu effaith cynyddu’r Yswiriant Gwladol

Cyhoeddwyd : 21/03/25 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Mae’r effaith y bydd cynyddu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yn ei chael ar fudiadau gwirfoddol wedi’i hamlygu eto mewn trafodaeth ddiweddar yn y Senedd – ond mae angen gweithredu o hyd.

Mae’r sector gwirfoddol yn wynebu storm ariannol. Bwriedir cynyddu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) Cyflogwyr o 13.8% i 15% yn Ebrill 2025, ac ar yr un pryd, lleihau trothwy cyn talu cyflogwyr yn sylweddol, o £9,100 i £5,000. Mae elusennau, mudiadau gwirfoddol a chwmnïau nid-er-elw sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ymbaratoi ar gyfer costau uwch ar adeg pan mae cyllidebau eisoes wedi’u hymestyn i’r eithaf. Golyga’r newidiadau cyfunol hyn y bydd llawer o fudiadau yn wynebu costau cyflogaeth uwch o lawer, gan roi gwasanaethau hanfodol mewn perygl.

Mae CGGC yn clywed o lygad y ffynnon gan fudiadau gwirfoddol ledled Cymru am raddfa’r her hon. Yn ôl ein mewnwelediadau diweddaraf i’r sector, mae 84% o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn poeni am gynaliadwyedd ariannol, a 69% yn dweud eu bod eisoes yn defnyddio’u harian wrth gefn. Mae llawer yn cael anhawster ymdopi â’r galw am eu gwasanaethau, ac mae’r costau cyflogaeth uwch dim ond yn gwneud pethau’n waeth. I rai, gallai hyn olygu lleihau eu gweithlu, cyfyngu’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt neu, os daw hi i’r pen, gau’n gyfan gwbl. Mae’r dangosyddion cychwynnol yn dangos cynnydd pryderus mewn ymholiadau a’r angen am gymorth ar gyfer y mathau hyn o broblemau.

Y pryder cynyddol hwn oedd ffocws trafodaeth ddiweddar yn y Senedd. Cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ad-dalu mudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, fel y mae’n bwriadu ei wneud i gyrff y sector cyhoeddus. Er i’r cynnig gael ei wrthod yn y pen draw, daeth y drafodaeth â sylw mawr ei angen i’r pwysau sy’n wynebu’r sector. Gwnaeth cynnig diwygiedig yn cydnabod yr heriau ariannol sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol ac yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ymhél ymhellach â Llywodraeth y DU ar y mater, ei basio gyda chefnogaeth Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

CGGC YN PARHAU I WTHIO AM WEITHREDU

Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae CGGC yn gweithio’n agos gyda’r sector i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed. Gwyddom nad rhywbeth damcaniaethol yn unig yw effaith y newidiadau hyn – mae’n effeithio ar bobl go iawn, cymunedau go iawn ac ar y gwasanaethau amhrisiadwy y mae cymaint yn dibynnu arnynt. Mae llawer o’n haelodau yn darparu gwasanaethau hanfodol mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus, ond yn wynebu costau fwyfwy uchel heb yr un mesurau diogelu ariannol â’u haelodau cyfatebol yn y sector statudol.

Er nad yw Yswiriant Gwladol yn fater wedi’i ddatganoli o hyd, mae CGGC wedi bod yn ymhel yn weithredol â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod dull gweithredu tecach. Rydym wedi pwyso ar benderfynwyr i sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynlluniau ad-dalu, gan gydnabod eu rôl dyngedfennol mewn cynnig gwasanaethau hanfodol i gymunedau ledled Cymru.

Yn ystod y drafodaeth, cydnabu Aelodau o’r Senedd y straen ar y sector a’r angen am gymorth. Mae pasio’r cynnig diwygiedig yn gam positif ymlaen ac yn atgyfnerthu’r angen am fwy o ymgysylltiad ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae’n siomedig na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud galwad uniongyrchol i fudiadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus gael eu had-dalu am y cynnydd yn NICs Cyflogwyr. Mae angen i ni weld datrysiadau ymarferol sy’n atal mudiadau rhag gorfod gwneud dewisiadau amhosibl rhwng lleihau gwasanaethau a chyfaddawdu eu cynaliadwyedd ariannol drwy ddefnyddio pob ceiniog o’u cyllid wrth gefn i amsugno’r costau uwch.

BETH NESAF?

Mae CGGC yn parhau i fod yn ymrwymedig i bledio achos y sector gwirfoddol. Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda chynrychiolwyr y sector a phenderfynwyr i wthio am gymorth ariannol ystyrlon. Rydym wedi gweld cryn dipyn o sylw i’r mater yn y cyfryngau a byddwn hefyd yn parhau i amlygu gwirioneddau sefyllfa ariannol y sector a’r pwysau cynyddol sydd ar fudiadau gwirfoddol.

Anogwn bob mudiad gwirfoddol a effeithir gan y newidiadau hyn i rannu eu profiadau â ni. Po fwyaf o dystiolaeth sydd gennym, cryfa’n byd fydd ein hachos pan fyddwn yn ymhél â llunwyr polisïau. Os bydd eich mudiad yn cael ei effeithio gan y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, rydym eisiau clywed gennych chi. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gryfhau llais y sector a sicrhau nad yw ei gyfraniad hanfodol i gymunedau Cymru yn cael ei anghofio. Rhannwch eich meddyliau â ni yn polisi@wcva.cymru.

Am ddiweddariadau ar ein gwaith eirioli ac adnoddau i gefnogi eich mudiad, ewch i’n tudalen newyddion neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 17/07/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd y DU

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Gwerth economaidd eich mudiad mewn wasanaethau iechyd a gofal

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy