dwylo person ar gyfrifiannell gan eu bod yn gwneud rhywfaint o gyfrif

Toriadau cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi

Cyhoeddwyd : 26/10/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Ar ôl y cyhoeddiad yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni’n monitro effaith y cynllun gwariant diwygiedig ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Ar 17 Hydref 2023, cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, ddatganiad i’r Senedd ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru. Gallai’r cyhoeddiad gael effaith negyddol sylweddol ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Gan dynnu sylw at ‘effaith driphlyg chwyddiant, effaith mwy na degawd o gyni ar wasanaethau cyhoeddus, a chanlyniadau parhaus Brexit,’ dywedodd y Gweinidog fod cyllideb ddatganoledig Cymru wedi’i rhoi o dan bwysau digyffelyb.

PA NEWIDIADAU SYDD WEDI’U CYHOEDDI?

Er y bydd cyllidebau refeniw ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Newid Hinsawdd yn cynyddu, bydd pob adran arall yn wynebu toriadau.

Mae cyllideb yr adran Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gweld gostyngiad o £11.6 miliwn yn ei chyllideb, gan gynnwys gostyngiadau o £4.2 miliwn ar gyfer y cyllidebau Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: ‘Mae’r rhan fwyaf o’r arbedion hyn wedi codi drwy ohirio graddfa a chyflymder gweithredu arfaethedig lle nad oes cyllid wedi’i ymrwymo.’

YR EFFAITH AR AWDURDODAU LLEOL

Mae cyllideb yr adran Cyllid Llywodraeth Leol wedi syrthio £36.5 miliwn yn y diwygiad. Ond, bydd Grant Cymorth Refeniw’r llywodraeth leol, sy’n ffurfio rhan o gyllid craidd awdurdodau lleol drwy setliad y llywodraeth leol, yn cael ei ddiogelu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: ‘Mae’r awdurdodau lleol yn darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus a hynny yn aml i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas neu’r rhai sydd o dan anfantais economaidd.’

SUT BYDD CGGC YN YMATEB?

Mewn ymateb i’r datganiad, dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC: ‘Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r penderfyniadau ariannol anodd sydd angen eu gwneud ar hyn o bryd. Ni fu erioed angen y sector gwirfoddol fwy gan gymaint o bobl.

‘Byddwn ni’n parhau i ddangos yr effaith enfawr y mae gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol a chymunedol yn ei chael wrth gefnogi cymaint o agweddau gwahanol ar fywyd yng Nghymru – o’n hamgylchedd naturiol i addysg a sicrhau bod pobl mewn amgylchiadau bregus yn cael yr wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.’

Bydd CGGC yn monitro effaith bosibl y toriadau hyn ar ein haelodau a’r sector gwirfoddol ehangach wrth i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda swyddogion i hyrwyddo tegwch, tryloywder a dull cydgysylltiedig o wneud penderfyniadau cyllidebol sy’n effeithio ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy