Menyw mewn gwisg nyrs yn gwthio menyw hŷn mewn cadair olwyn

Ton 4 Baromedr Cymru: iechyd a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 08/07/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Arsyllfa VCSE a CGGC yn lansio Ton 4 Baromedr Cymru, gyda’r nod o adeiladu darlun cliriach o gyfraniad y sector gwirfoddol i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae mudiadau gwirfoddol yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi iechyd a lles pobl ledled Cymru. Maent yn darparu cymorth ataliol, yn darparu gwasanaethau o fewn cymunedau, ac yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.

Ond mae llawer nad ydym yn ei ddeall yn llawn o hyd am brofiad mudiadau gwirfoddol o weithio o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol, y cyfleoedd maent yn eu creu, a’r heriau maent yn eu hwynebu.

PAM IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL?

Rydym yn archwilio profiadau mudiadau o weithio gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, cydweithio â mudiadau eraill, darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion lleol, ac ymateb i newidiadau ar draws y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol.

Fel ton gyntaf Baromedr Cymru i ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, bydd yn darparu llinell sylfaen y gellir mesur tueddiadau’r dyfodol yn ei herbyn, gan ein helpu i olrhain sut mae perthnasoedd, cydweithredu a rôl y sector o fewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu dros amser.

Trwy gasglu’r mewnwelediadau hyn, gallwn gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y sector a gwella dealltwriaeth o’r rôl y mae mudiadau gwirfoddol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru.

AR AGOR I BOB MUDIAD GWIRFODDOL

Er bod Ton 4 yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, mae Baromedr Cymru ar agor i bob mudiad gwirfoddol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â’r cwestiynau amserol, mae’r arolwg hefyd yn cynnwys cwestiynau chwarterol rheolaidd Baromedr Cymru sy’n ein helpu i olrhain tueddiadau ar draws y sector, gan gynnwys cyllid, y gweithlu a gwirfoddoli, rhagolygon sefydliadol, a newidiadau yn y galw.

YR HYN Y BYDDWCH YN EI GAEL

Mae Ton 4 ar agor rhwng 8 Gorffennaf a 5 Awst.

Bydd pob cyfranogwr yn cael:

  • Adroddiad Mewnwelediad Unigol, sy’n caniatáu i fudiadau gymharu eu profiadau nhw â thueddiadau’r sector ehangach
  • Mynediad cynnar i ddangosfwrdd Baromedr Cymru, sy’n eich galluogi i archwilio’r canfyddiadau cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi
  • Gwahoddiad i weminar am ddim sy’n archwilio’r canlyniadau a’u goblygiadau i’r sector 

Mae dim ond yn cymryd 15 munud i gymryd rhan mewn Baromedr. Bydd pob cyfranogwr yn cael Adroddiad Mewnwelediad Unigol a gallwch weld adroddiad enghreifftiol yma.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/11/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Wythnos yr Ymddiredolwyr 2026

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/10/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cael y diweddaraf yr Wythnos Ddiogelu hon

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/10/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Datgelu Enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2026! 

Darllen mwy