Mae grŵp amrywiol o bobl yn sefyll mewn grwpiau bach mewn canolfan gymunedol. Cânt eu casglu dros rai dogfennau yn darllen ac yn trafod.

Telerau ac Amodau arbennig ar gyfer canolfannau cymunedol

Cyhoeddwyd : 11/12/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae CGGC wedi rhyddhau sampl o Delerau ac Amodau i reolwyr canolfannau cymunedol yng Nghymru eu defnyddio wrth gynnig canolfannau cymunedol i’w llogi.

Mae’n falch gan CGGC gyhoeddi ein bod bellach mewn sefyllfa i roi sampl o Delerau ac Amodau i reolwyr canolfannau cymunedol y gellir ei defnyddio wrth gynnig canolfannau cymunedol i’w llogi.

Roeddem wedi gobeithio gallu eu rhyddhau cyn hyn, ond roedd yn rhaid i ni ystyried y newidiadau i’r rheoliadau a goblygiadau’r rhain ar delerau contract.

Gallwch ddewis rhai o’r telerau hyn neu bob un ohonynt, nid ydych yn gorfod eu defnyddio, ond dylent helpu os nad ydych eisoes wedi adolygu’ch telerau ac amodau.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn darllen drwy’r telerau er mwyn pennu pa rai sy’n fwyaf priodol ar gyfer eich mudiad. Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod chi a’r sawl sy’n llogi yn deall ac yn cadw at y telerau, gan eu bod yn berthnasol i’r ddwy ochr. Dylai defnyddio’r telerau contract arbennig hyn helpu i sicrhau eich bod chi, fel rheolwyr canolfannau, a’r rheini sy’n llogi’ch canolfannau yn cydymffurfio â’r rheoliadau coronafeirws ac yn deall rolau a chyfrifoldebau eich gilydd.

Noder fod y telerau yn seiliedig ar y rheoliadau cyfredol fel ag yr oeddent ar 10 Rhagfyr 2020. Wrth i’r rheoliadau newid, mae’n debygol iawn y bydd y telerau yn newid hefyd. Bydd CGGC yn eich hysbysu o’r newidiadau hyn drwy ein cylchlythyr Covid-19 (y gallwch gofrestru yma i’w gael) ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Crëwyd y telerau gan Dolmans Solicitors, am ddim. Hoffai CGGC gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Dolmans am gynorthwyo CGGC a chanolfannau cymunedol gyda hyn. Yn benodol, diolch i Tom Harris am ei holl waith caled. Hoffem ddiolch hefyd i Becca Falvey yn Business in the Community am ein rhoi ni mewn cysylltiad â Dolmans.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y telerau neu os hoffech chi eu trafod, cysylltwch â mi, Emma Waldron yn rpgenquiries@wcva.cymru.

Gweld a lawrlwytho’r templed: Sampl o amodau llogi arbennig yn ystod COVID-19. I ofyn am fersiwn Word, anfonwch e-bost at rpgenquiries@wcva.cymru.

CANLLAWIAU AR GYFER AILAGOR-CANOLFANNAU CYMUNEDOL-YNG-NGHYMRU

Mae CGGC hefyd wedi llunio Canllawiau ar gyfer ailagor Canolfannau Cymunedol yng Nghymru a gallwch ddod o hyd i ganllawiau Llywodraeth Cymru yn: llyw.cymru/defnyddio-canolfannau-cymunedol-amlbwrpas-yn-ddiogel-covid-19.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith o gwmpas gogledd Cymru

Darllen mwy