Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) – teclyn newydd am ddim i helpu sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael y profiad gorau posibl
Ar draws y DU, mae teclyn newydd am ddim ar gael er mwyn helpu i sicrhau fod eich gwirfoddolwyr yn cael y profiad gorau posibl ac yn llwyddo i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’r achos. Datblygwyd IiV Essentials gan wirfoddolwyr a’r staff sy’n eu cefnogi nhw ledled y DU.
Gwirfoddoli yw un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y gallwch wneud; helpu pobl, cyfrannu at eich cymuned a newid y byd o’n cwmpas.
Gall fod yn wirioneddol drawsnewidiol – nid yn unig i’r bobl sy’n gwirfoddoli, ond hefyd i’r mudiadau sy’n elwa o’u hamser a’u profiad. Mae’n hynod bwerus pan fo’r berthynas yn gweithio’n dda i’r unigolyn a’r mudiad fel ei gilydd.
‘TECLYN I’W GROESAWU…’
Mae CGGC (ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol – NCVO, Volunteer Scotland a Volunteer Now) yn lansio teclyn newydd am ddim i’ch helpu chi i wella profiad gwirfoddolwyr gyda’ch mudiad, er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn rhan o’r broses o gyflawni eich gweledigaeth yn y ffordd orau bosibl.
Mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddolwyr gyda CGGC yn cydnabod pam y gallai’r teclyn hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar yr adeg hon.
‘Mae mudiadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr yn edrych yn fanwl ar y modd maen nhw’n darparu rhaglenni gwirfoddoli yn yr hinsawdd sydd ohoni ac yn ailystyried sut i gynnwys gwirfoddolwyr ar draws ystod o feysydd gwasanaeth.
‘Gobeithiwn y bydd y teclyn hunan-asesu am ddim yn declyn i’w groesawu i nifer a fyddai’n elwa o fframwaith sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr er mwyn gwella arfer.’
Wedi’i ddatblygu gan wirfoddolwyr a’r staff sy’n eu cefnogi ledled y DU, mae LiV Essentials yn gyflwyniad i’r safon ansawdd ar gyfer arfer dda mewn rheoli gwirfoddolwyr a chynnwys gwirfoddolwyr mewn modd ystyrlon – mae’n ffordd syml a hawdd o ddechrau ar wella’r effaith a gaiff gwirfoddoli ar eich mudiad.
CHWECH MAES CRAIDD
Gan ganolbwyntio ar chwe maes craidd, fe’ch arweinir trwy gyfres o gwestiynau a fydd yn eich cynorthwyo i ddiffinio sut i gefnogi ac ymgysylltu â’ch gwirfoddolwyr, sut maen nhw’n cyfrannu tuag at eich gweledigaeth a sut maen nhw’n ehangu ar eich gwasanaeth i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Yn ôl defnyddiwr IiV Essentials sy’n rhan o’r broses o beilota’r teclyn hunan-asesu newydd,
‘Bu’r teclyn yn ddefnyddiol nid yn unig er mwyn ystyried y prosesau a’r gefnogaeth gefndirol sydd yn eu lle er mwyn cefnogi gwirfoddolwyr yn eu rolau, ond hefyd er mwyn ystyried o’r ochr arall sut brofiad y gallai’r gwirfoddolwyr ei gael o’u rôl a pha welliannau y gallem eu gwneud i annog mwy o ymgysylltiad a boddhad.’
Os hoffai eich mudiad ddefnyddio’r teclyn hwn, gallwch ddarganfod mwy am IiV Essentials yma: https://knowhow.ncvo.org.uk/tools-resources/investing-in-volunteers-iiv-essentials