Tom Morrissey

Headshot of Tom Morrissey, Volunteering Manager at WCVA

Rheolwr Gwirfoddoli

Tom yw’r Rheolwr Gwirfoddoli yn CGGC, yn cefnogi gwirfoddoli ledled Cymru ac yn helpu i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu drwy wirfoddoli. Yn frwd am y rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae mewn creu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig, mae Tom wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn gweithio gyda myfyrwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i gynyddu cyfranogiad, datblygu sgiliau arweinyddiaeth a chreu cyfleoedd ystyrlon i gymryd rhan.

Cyn ymuno ag CGGC, bu Tom yn gweithio ar draws y sector addysg uwch ac undebau myfyrwyr, gan gynnwys rolau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Undeb Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Trwy gydol ei yrfa, mae wedi cefnogi rhaglenni gwirfoddoli, cynrychioli myfyrwyr, cymdeithasau a mentrau i ymhél â’r gymuned, gan helpu unigolion i ddatblygu hyder, sgiliau ac ymdeimlad o berthyn trwy gyfranogiad gweithredol.

Ochr yn ochr â’i brofiad proffesiynol, mae gan Tom ddiddordeb cryf mewn cynaliadwyedd, datblygu cymunedol a newid cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau MSc mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad, yn edrych ar sut mae gwirfoddoli yn cael ei ddeall mewn polisïau ac arferion Cymru. Daw ei ddiddordebau academaidd a phroffesiynol ynghyd trwy gred y gall gwirfoddoli chwarae rhan hanfodol mewn creu Cymru decach, fwy cynaliadwy.

Y tu allan i’r gwaith, gellir dod o hyd i Tom yn aml yn gwirfoddoli, mwynhau’r awyr agored, garddio neu’n crwydro tirweddau a mannau gwyrdd Cymru.

Dilyn Tom Morrissey