Suzanne Mollison

Llun proffil o Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu yn CGGC

Rheolwr Diogelu

Ar ôl gweithio mewn sawl maes o ofal cymdeithasol yn Lloegr, mae Suzanne wedi treulio’r 20 mlynedd ers iddi symud i Gymru yn gweithio bron yn gyfan gwbl yn y sector gwirfoddol.

Ymunodd Suzanne â CGGSDd (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) fel Swyddog Cyswllt Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn 2006. Yno cyfrannodd at brosiect llwyddiannus Cymunedau Diogelach/ Safer Communities yr NSPCC mewn partneriaeth â’r Bwrdd Diogelu lleol. Cyneuodd hyn ei hangerdd am ddiogelu, ac yn enwedig am ddarparu hyfforddiant diogelu. Trwy weithredu cwmni hyfforddi annibynnol ‘Suzanne Says’ flynyddoedd yn ddiweddarach cafodd lawer o ymarfer yn y maes hwn!

Ymunodd Suzanne â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn CGGC yn 2012 er mwyn datblygu’r Gwasanaeth Diogelu a, thrwy weithio gyda thîm â chymaint o arbenigedd ym maes arweiniad DBS, rhoddwyd maes gwybodaeth newydd sbon iddi.

Yn ei rôl gyfredol mae Suzanne yn mwynhau darparu hyfforddiant ac arweiniad i’r sector gwirfoddol ar bopeth yn ymwneud â diogelu. Fe welwch gynghorion ac arweiniad wedi’u hysgrifennu gan Suzanne draw ar ein tudalen Diogelu ac amddiffyn pobl, ac ewch i’n hadran Hyfforddiant i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyfforddiant a gynigir gennym.

Cydweithiodd Suzanne yn helaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd, gan gyfrannu’n ddiweddar at waith yn ymwneud â Gweithdrefnau Diogelu Cymru (mae hi’n gobeithio eich bod wedi lawrlwytho’r ap www.diogelu.cymru).

Mae Suzanne yn mwynhau arfordir a bryniau Cymru, cerdded a seiclo – pan fo’r tywydd yn caniatáu!

Dilyn Suzanne Mollison

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn:

Cyhoeddi ar: 22/05/24

Arferion mwy diogel i recriwtio gwirfoddolwyr

Darllen mwy

Cyhoeddi ar: 21/01/20

Diogelu yn y sector gwirfoddol – beth sy’n bwysig?

Darllen mwy