Rheolwr Cyfathrebu
Ymunodd Simon â CGGC gyntaf yn 2011 fel gweithiwr dros dro gyda phrosiect Y Porth Ymgysylltu, cynllun o dan nawdd Ewropeaidd a oedd yn rhagflaenydd i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.
Ar ôl graddio mewn Ieithyddiaeth Ymarferol o Brifysgol Abertawe, gweithiodd Simon mewn amrywiol rolau ar wahanol dîmau a phrosiectau CGGC cyn dod o hyd i’w arbenigedd gyda’r tîm cyfathrebu.
Cafodd Simon ei gyfareddu gan ieitheg erioed ac mae wedi treulio’r pum mlynedd ddiwethaf yn CGGC wedi ymgolli’n llwyr wrth ddysgu ac archwilio popeth sy’n ymwneud â marchnata a chyfathrebu. Yn fwy diweddar, arweiniodd nifer o brosiectau mawr gan gynnwys adfywio brand, stori frandio a gwefan CGGC.
Yn ei oriau hamdden, mae Simon yn trefnu gêmau pêl-droed pump bob ochr rheolaidd, gan amlaf gyda phobl sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol! Mae Simon hefyd yn angerddol am gerddoriaeth a gellir dod o hyd iddo’n chwarae’r drymiau i’r band o Gaerdydd, Dusty Cut.