Ross Thomas

Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Partneriaethau a Pholisi CGGC, Ross Thomas

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Partneriaethau a Pholisi

Ymunodd Ross ag CGGC yn 2025 ac mae’n gyfrifol am yrru ei waith o ran dylanwadu ar bolisïau a meithrin cydberthnasau cryf sy’n grymuso sector gwirfoddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys cael trosolwg strategol o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, Cynllun y Trydydd Sector a chysylltiad dwy ffordd â Llywodraeth Cymru. Mae Ross yn frwd am godi llais y sector a sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu realiti’r rheini sy’n gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.

Mae gan Ross brofiad ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan gynnwys bron dau ddegawd fel cynrychiolydd llywodraeth leol, yn ogystal â chyfnod fel Maer Maesteg.

Cyn ymuno ag CGGC, treuliodd Ross fwy na chwe blynedd fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Tai Pawb yn arwain ymdrechion i ddylanwadu ar waith cydraddoldeb ar draws sector tai Cymru. Cyn hyn, bu Ross yn gweithio yn y maes cysylltiadau cyhoeddus a datblygu cymunedol llawr gwlad.

Y tu allan i’r gwaith, mae Ross yn ‘dad’ i Campbell, ci tarw Ffrengig (French Bulldog). Pan gaiff ei ryddhau o ddyletswyddau ci, mae Ross yn mwynhau cefnogi grwpiau cymunedol – gan gynnwys perfformio gyda’i gymdeithas theatr gerddorol leol – ac mae’n ymddiriedolwyr nifer o fudiadau lleol ym Maesteg. Mae Ross yn deithiwr brwd hefyd a bob amser yn chwilio am fargen wyliau!

Logo dw i'n dysgu Cymraeg

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn:

Cyhoeddi ar: 29/01/26

Baromedr: cam enfawr ymlaen i’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Darllen mwy