Ymddiriedolwr
Yn Brif Weithredwr Anabledd Cymru ers 2001, mae Rhian Davies wedi bod yn cefnogi ac yn ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl ers tro byd, gan ddefnyddio’i phrofiad bywyd.
Mae Rhian yn aelod o Dasglu Hawliau Pobl Anabl dan arweiniad Gweinidog, a sefydlwyd i ymateb i’r canfyddiadau a’r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021). Bu’n cadeirio’r Gweithgor Byw’n Annibynnol (Gofal Cymdeithasol a chyflwynodd Hyfforddiant ar y Model Anabledd Cymdeithasol i’r Cabinet cyn iddynt ystyried y Cynllun drafft.
Mae Rhian yn cynrychioli Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac yn aelod o’r is-bwyllgor Cyllido a Chydymffurfiaeth, gan gyfrannu at ddiwygio’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido.
Arferai Rhian fod yn Ymddiriedolwr gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru (2017-2023), gan wasanaethu fel Is-gadeirydd am bedair blynedd. Bu’n mentora ar Gynllun Mentora WEN ynghyd ag ar y Rhaglen Fentora wobrwyol ‘Pŵer Cyfwerth, Llais Cyfwerth’. Gyda’r nod o gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus, cafodd Pŵer Cyfwerth, Llais Cyfwerth ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng WEN Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) Stonewall Cymru ac Anabledd Cymru.
Yn 2017, cynrychiolodd Rhian gymdeithas sifil yng Nghymru yn Geneva yn ystod adolygiad cyfnodol cyntaf Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl o weithrediad Llywodraeth y DU o’r Confensiwn.
Yn gyn-aelod o Bwyllgor Statudol Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) (2007-2012), mae gan Rhian MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Brifysgol Caerdydd (2010). Cafodd fwrsariaeth gan Academi Cymru i gymryd rhan yn y Rhaglen ‘Women and Power’ yn yr ‘Harvard Kennedy School of Government’ (2014).
Rhian yw Cadeirydd Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol CGGC.