Ymddiriedolwr
Mae Reham yn arbenigwr marchnata digidol siartredig sydd wedi cymhwyso gyda’r Mudiad Marchnata Siartredig (CIM) ac mae ganddi gefndir rhyngwladol amrywiol iawn. Mae wedi gweithio ar draws lliaws o sectorau, gan gynnwys bancio a chyllid, yswiriant, e-fasnach a’r gyfraith ar hyn o bryd – gan gefnogi sefydliadau rhanbarthol sydd wedi hen ennill eu plwyf yn ogystal â brandiau heriol a busnesau newydd arloesol.
Gyda thros chwe blynedd o brofiad mewn marchnata, mae Reham wedi ymgymryd ag amrediad o rolau sy’n canolbwyntio ar ddigidol, gan gynnwys Arbenigwr Marchnata Digidol a Swyddog Gweithredol Optimeiddio Peiriannau Chwilio. O ganlyniad i’w thaith broffesiynol yn y Dwyrain Canol a’r DU, daw â phersbectif unigryw i’r rôl. Mae gan Reham radd Fagloriaeth mewn Marchnata, ac yn ddiweddar, cwblhaodd gymhwyster Lefel 6 y CIM mewn Marchnata Digidol. Drwy ei gwaith cyfieithu, mae hefyd wedi cyfrannu at ymgyrchoedd ar gyfryngau cymdeithasol ledled rhanbarthau’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA), gan helpu brandiau i adeiladu cysylltiadau go iawn â chynulleidfaoedd amrywiol.
Mae Reham yn frwd am bŵer arweinyddiaeth gynhwysol a thrawsnewid digidol. Mae’n mynd ati’n weithredol i hyrwyddo amrywiaeth a chynrychiolaeth, yn enwedig ar lefelau uwch, ac yn ymrwymedig i greu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ffynnu.
Y tu allan i’r byd marchnata, mae Reham wedi gwirfoddoli a chyfieithu ar gyfer cyrff elusennol ffoaduriaid cymunedol, ac mae’n fam brysur. Gyda’r ychydig iawn o amser rhydd sydd ganddi, mae wrth ei bodd yn teithio ar hyd a lled y byd – gyda ffrindiau a theulu, ond mae hefyd wrth ei bodd yn croesawu ymwelwyr i’w chartref a dangos harddwch Cymru iddyn nhw!