Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau
Natalie sy’n arwain ein gwaith ar ddatblygu polisïau, dylanwadu ac ymchwil. Mae’n ymgysylltu â’r sector ac yn trawsnewid eu hadborth yn ddatrysiadau polisi i’w cynnig i’r llywodraeth. Mae hefyd yn rhoi’r newydd diweddaraf i ni i gyd ar y tueddiadau, y datblygiadau gwleidyddol a’r newidiadau deddfwriaethol mwyaf newydd.
Mae gan Natalie radd dosbarth cyntaf o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac mae ganddi gefndir proffesiynol mewn polisi busnes. Mae’n angerddol am hawliau a rhyddidau dynol, cyflwr ein hamgylchedd naturiol a chyfranogiad dinesig.
Yn wirfoddolwr gydol oes, mae Natalie wedi benthyg ei sgiliau i elusennau plant, anifeiliaid ac atal masnachu pobl. Mae’n drefnydd cymunedol ymroddedig – hi yw cyd-sylfaenydd grŵp cymunedol dawnsio Affro-ladin mwyaf Caerdydd, ac mae’n swyddog canlyniadau ar gyfer gorsaf bleidleisio o bell Bwlgaria yng Nghaerdydd.
Mae Natalie yn frwd am y Gymraeg, yn ddawnswraig frwdfrydig ac yn gefnogwr mawr o’r Eurovision.