Cyfarwyddwr Cyllid
Mae Miranda yn gyfrifydd cymwys ac wedi treulio’i gyrfa gyfan yn gweithio yn y sector elusennau a chwmnïau nid-er-elw. Mae’n Gyfarwyddwr Cyllid profiadol ac wedi gweithio i amrediad o elusennau yn mynd i’r afael â materion fel digartrefedd, iechyd meddwl a darparu gofal hosbis.
Mae wedi bod yn ymddiriedolwr ar fyrddau nifer o elusennau a hi yw’r Cadeirydd Cyllid ac Adnoddau i Jessie May ar hyn o bryd, sef elusen sy’n rhoi gofal a chymorth yn y cartref i blant sy’n byw â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a chyflyrau bygwth bywyd.
Mae Miranda yn mwynhau gweithio yn y sector gwirfoddol, ac wedi gweld y gwahaniaeth y mae elusennau yn ei wneud i’r rheini y maen nhw’n eu cefnogi â’i llygaid ei hun, ni allai ddychmygu gwneud unrhyw beth arall.
Yn ei hamser rhydd, mae’n driathletwr brwd a chwblhaodd ei digwyddiad Ironman pell cyntaf fis Hydref diwethaf. Pan nad yw’n ymarfer neu’n cystadlu mewn digwyddiadau ei hun, mae’n hoffi gwylio chwaraeon a gellir ei gweld ar ochr cae rygbi neu griced.