Lowri Jones

Lowri Jones, Ymddiriedolwr CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)

Ymddiriedolwr

Ers 2000 bu Lowri yn gweithio fel Prif Swyddog Menter Iaith Sir Caerffili, mudiad gwirfoddol sy’n cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn wreiddiol o Gwm Rhymni ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda BA a Phrifysgol Caerdydd gyda MA. Rhwng 2018-21, bu’n Gadeirydd Mentrau Iaith Cymru, y rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru gan gefnogi datblygiad prosiectau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Yn ddiweddar, dechreuodd fel aelod o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn cynrychioli’r rhwydwaith o sefydliadau gwrifoddol ar draws Cymru sy’n cefnogi defnydd y Gymraeg. Mae Lowri hefyd yn cadeirio Fforwm Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol yn Sir Caerffili ac yn ddiweddar apwyntiwyd fel aelod o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.

Mae Lowri’n angerddol am ddatblygu cymunedol ac yn mwynhau dilyn datblygiad mudiadau gwirfoddol wrth iddynt ymateb i anghenion lleol trwy ddarparu gwasanaethau ac adnabod bylchau mewn gwasanaethau. Fel siaradwraig Cymraeg a anwyd a magwyd mewn ardal heb lawer o Gymraeg, mae Lowri wedi ymrwymo i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol. Mae hi’n gefnogwr brwd o’r sector gwirfoddol a’i rôl allweddol yn adferiad ein cymunedau mwyaf difreintiedig a’r broses o leihau tlodi. Yn fam i bedwar o fechgyn, mae hi’n weithgar gyda nifer o grwpiau chwaraeon lleol a mudiadau gwirfoddol eraill.

Lowri yw Is-gadeirydd Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol CGGC.

Golygfeydd a ysgrifennwyd gan yr awdur hwn: