Ymddiriedolwr
Mae Loretta yn ymddiriedolwr ag ymrwymiad dwfn i degwch, urddas a chyfle i bawb. Mae ganddi Faglor Gwyddorau Cymdeithasol mewn Economeg a Chymdeithaseg, Baglor yn y Gyfraith (LLB) a gradd meistr mewn cysylltiadau rhyngwladol. Cred Loretta fod newid go iawn yn digwydd pan ddaw cymunedau ynghyd a neb yn cael ei adael ar ôl.
Mae Loretta yn gweithio fel gweithiwr cymorth, yn cynorthwyo oedolion niwrowahanol i fyw’r bywydau y maen nhw’n eu dewis gan hybu annibyniaeth a hunan-benderfyniad. Yn fam i blentyn ag awtistiaeth, mae ei phrofiad bywyd wedi llunio ei brwdfrydedd am gynhwysiant a’i hysbrydoli i sefydlu *Cymorth Teuluol EveryAbility, sy’n cefnogi unigolion niwrowahanol a’u teuluoedd. Mae hefyd yn gwirfoddoli gyda *Home-Start Cymru.
Un prosiect sy’n agos at ei chalon yw Respect for Human Rights (Parch at Hawliau Dynol), a gyflwynir mewn partneriaeth â Sefydliad Theresa-Naomi, sy’n cefnogi addysg a chyfleoedd mewn cymunedau yn Ghana heb wasanaethau digonol.
Fel un o ymddiriedolwyr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae’n ymrwymedig i gryfhau’r sector gwirfoddol ledled Cymru.
*Saesneg yn unig