Prif Weithredwr
Daw Lindsay yn wreiddiol o Middlesbrough yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, ond daeth i Gymru yn 2011. Yn dilyn gyrfa hirfaith yn arbenigo’n benodol ar y maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay wedi treulio’r chwe blynedd ddiwethaf yn ceisio trechu digartrefedd fel Prif Weithredwr Y Wallich.
Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr ar ôl profi digartrefedd. Treuliodd beth amser yn y Gwasanaeth Prawf yn darparu rhaglenni gwaith grŵp mewn carchardai a lleoliadau cymunedol cyn sefydlu’r gwasanaeth atgyfeirio ar ôl arestiad cysylltiedig ag alcohol cyntaf yn y DU. Mae Lindsay hefyd wedi gweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, yng nghomisiynu a monitro gwasanaethau.
Mae ei gyrfa wedi ei harwain at y pwynt hwn: Prif Weithredwr profiadol gyda doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg Gymhwysol. Ar gyfer ei thraethawd ymchwil, datblygodd Lindsay raglen ar gyfer mynd i’r afael â dibyniaeth trwy gadw gwenyn.
Bu Lindsay yn aelod o fwrdd CGGC am wyth mlynedd, gan gamu i lawr ym mis Tachwedd 2023. Yn dal i fod yn wirfoddolwr brwd, mae Lindsay yn gwirfoddoli gyda’r Llinell Gymorth Draenogod, yn ateb galwadau ffôn ac yn adsefydlu draenogod.
Mae Lindsay yn wraig briod hapus i Lisa, a chyda dau lysblentyn, dau gi, pedair iâr a thua 200,000 o wenyn. Yn ei hamser rhydd, mae’n codi pwysau, yn mwynhau paffio ac yn hoff iawn o weithio gyda’i dwylo.
