Swyddog Ansawdd ac Adnoddau Gwirfoddoli
Cafodd Korina Tsioni ei geni a’i magu yng ngogledd Gwlad Groeg. Astudiodd fathemateg a gweithiodd fel athrawes fathemateg a ffiseg.
Arweiniodd ei hangerdd am amlddiwylliannaeth ac amrywiaeth hi i Lundain lle cwblhaodd MA mewn Anthropoleg Gymhwysol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Ers hynny mae Korina wedi gweithio mewn amrywiaeth o wahanol rolau mewn lleoliadau addysg a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr.
Ymunodd Korina â CGGC yn 2017, ac mae hi ar hyn o bryd yn gweithio yn y tim gwirfoddoli. Gofynnwch iddi am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gwirfoddoli o ansawdd ac adnoddau gwirfoddoli.
Mae Korina yn angerddol am degwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hi yn Ymddiriedolwr gyda Women Connect First ac yn aelod o Gynghrair Hil Cymru â Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru. Mae hi hefyd yn gyn-fentai WEN (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru).